Tudalen:Cymru fu.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna y coronir pryf Germania, ac y cleddir y tywysawg efyddawl. O'r braidd y gall draig Germania gyrhaedd ei ffau, canys dial ei frad a'i goddiwedda. Degwm Fflandras a'i llesteiria, canys pobl a ddaw yn ei erbyn mewn gwisgoedd o bren a haiarn, ac a ddialant ei anwiredd. Hwy a adferant y trigolion i'w trigfanau ac estroniaid a ddyfethir. Hâd y ddraig wen a ysgubir o'r gerddi, a gweddill ei genedlaeth a ddegymir. Dygant iau caethiwed, a'u mam a anafant gyda cheibiau ac erydr. Yna dynesa y ddwy ddraig, y naill a leddir gan golyn cenfigen, eithr y llall a ddychwel dan gochl ei henw. Ar ei hol hwynt y daw llew gwirionedd, wrth ru yr hwn y cryn tyrau Ff'rainc, ac y brawycha dreigiau yr ynys. Yn y dyddiau hyny y cesglir ŷd oddiar ddanadl, ac arian a lithra o garnau gwartheg brefedig. Y praidd a wisgant amrywiol gnu, a'r wisg allanol a arwyddocâ y fewnol. Traed cyfarthiaid a dorir ymaith; bwystfilod rheibus a fwynhânt heddwch; dynolryw a ofidir wrth eu poenedigaeth; ffurf masnach a renir, a'r haner a fydd yn grwn. Rheibusrwydd y barcut a ddyfethir, a danedd bleiddiau a ddifinir. Cenawon llewod a gyfnewidir yn bysgod môr; ac eryr a adeilada ei nyth ar fynydd Arafia. Gwynedd a gochir gan waed mamau; a thŷ Corineus a laddant chwe' brawd. yr ynys a fydd wlyb gan ddagrau, a phawb a gynhyrfir i bobpeth. Gwae tydi, Neustria, canys tywelltir arnat ymenydd y llew; ac efe a alltudir gydag aelodau maluriedig o'i wlad gynwynol. Y gwir a anafa y sawl a geir trwy anwiredd, hyd oni roddo am dano ei Dad; gan hyny, yn arfogedig gyda dant baedd coed, efe a esgyn goruwch y mynyddoedd, a chysgod yr hwn a wisga helm. Llidiaw a wna yr Alban, a chan ymgynghori â'i chymydogion. hi a dywallt waed. Rhoddir ffrwyn yn ei phen a wnaed yn arffed Llydaw. Eryr-tor-y-Cynghrair a eura hyny. Cenawon rhuadwy a wyliant, a chan adael y coed, cyniweiriant rhwng muriau y ddinas. Ac nid bychan eu galanas ar y sawl a'u gwrthwynebo, a thorant ymaith dafodau teirw. llwythant yddfau llewod rhuadwy â chadwynau, ac adnewyddant amser eu hynafiaid. Yna o'r cyntaf i'r pedwerydd, o'r pedwerydd i'r trydydd, o'r trydydd i'r ail y trôir y fawd yn yr olew. Y chweched a ddadwreiddia furiau yr Iwerddon, a'r anialwch a dry efe yn wastadedd. Efe a ddarostwng amryw ddosbarthiadau yn un, a choronir ef gyda phen llew. Ei ddechreuad fydd agored i ansefydlogrwydd, ond ei ddiwedd a'i harwain at y gwynfydus. Canys efe a adnewydda eisteddfanau y saint yn eu gwled-