Tudalen:Cymru fu.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd, ac a sefydla fugeiliaid mewn lleoedd gweddus. Dwy gaer a wisg efe â dwy fantell, a rhoddion gwyryfol a rydd efe i wyryfon. Am hyn y derbyn ganmoliaeth yr holl gyfoethogion, a dodir ef yn mhlith y saint. O hono y cerdda hur [lynx, yn yr argraffiad Seisnig gan Giles, Bohn's Library], yr hwn a gyniwairia bob peth, a thuedda at ddistrywio ei genedl ei hun; canys trwyddo ef y cyll Flandras ei dwy ynys, ac o'i hanrhydedd ei hysbeilir. Yna dychwel y trigolion yn ol i'r ynys; canys bydd ymryson rhwng estron genedloedd. Hefyd hen ŵr penwyn, yn eistedd ar farch gwelw a dry wely yr afon Peryddon, ac â gwialen wen a fesura felin arni. Cadwaladr a eilw Cynan, ac a gymer yr Alban yn gynghreiriad. Yna y bydd lladdfa fawr ar estroniaid, yr afonydd a lifant gan waed, ac y llawenhâ mynyddoedd Llydaw. Teyrnwialen a dyf yn mhlith y Brutaniaid; llenwir Cymru â llawenydd, a derw Cernyw a ireiddir. Gelwir yr ynys ar enw Brutus, ac arni estroniaid a ballant. Gynan y cerdda baedd ymladdgar, yr hwn a ddefnyddia ei ys- gythrddanedd (tusks) ar goed Ffrainc; canys efe a dyr i lawr yr holl dderw cryfaf, ac a fydd nawdd i'r rhai gwanaf. Gwŷr Arabia ac Affrig a'i hofnant, canys parhâ ei ruthr hyd eithafoedd Yspaen. Yna dynesa llwch y Castell Serchawl, ac iddo farf arian a chyrn aur, yr hwn a chwytha gwmwl o'i ffroenau nes tywyllu gwyneb yr holl ynys. Heddwch a fydd yn ei amser ef, ac o ffrwythlonder y dywarchen y bydd digonedd o ŷd. Gwragedd a fyddant nadroedd yn eu gwisgiad, a'u holl ymddygiadau fyddant lawn o falchder, yna yr adnewyddir lluestai godineb. Ffynonell yr afon a droir yn waed, a dau frenin a ymladdant ornest am lewes yn Rhyd y Fagl. Gloddest a orchuddia yr holl dir, a dynoliaeth ni phaid a godineb. Hyn oll a wêl tair oes, hyd oni adgyfyd brenin- oedd claddedig yn Nghaer Lundain. Newyu a marwolaeth a ddychwelant, a'r trigolion a alarant oherwydd dinystr dinasoedd. Yna y daw baedd a Gyfnewid. yr hwn a eilw y praidd gwasgaredig yn ol i'r porfeydd a gollasant. Ei fron fydd fwyd i'r newynog, a'i dafod yn ddiod i'r rhai sychedig. Yna y tyf ar dŵr Llundain bren ac arno ond tair cainc, a chan led ei ddail gorchuddia yr holl ynys. Yn ei erbyn y cyfyd gwynt dwyrain, a chyda'i anadl lem crina y drydydd gainc; eithr y ddwy arall a gymerant ei lle hi hyd oni ddinystriant y naill y llall gan amlder eu dail, ac yna y cymer efe le y ddwy hyny, ac y rhydd gynaliaeth i adar pob cenedl Peryglus