Tudalen:Cymru fu.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a fydd efe i adar yr ynys, canys ni fedrant hwy hedeg yn rhwydd yn ei gysgod. Ar ol hyny, y dynesa asyn anwiredd, chwim yn erbyn y gofaint aur, ond araf yn erbyn cribddeil bleiddiau. Yn y dyddiau hyny y llosgir y derw yn y coed, ac y tyf mês ar y Iwyfanen (teitree). Môr Hafren a ymarllwys yn saith cainc, a'r afon Wysg fydd ar dân am saith. mis. Gan y gwres, ei physg a fyddant meirw; ac o honynt hwy y cenedlir seirff'. Yna yr oera dyfroedd Baddon, a'u ffrydiau iachus a fagant angau. Llundain a alara ar farwolaeth ugain mil, a throir yr afon Tafwys yn waed. Gorfodir mynachod i briodi, a chlywir eu dolefau ar fynyddoedd yr Alpau.

Tair ffynnon a gyfyd o Gaer Ŵynt; ffrydiau y rhai hyny a holltant yr ynys yn dair rhan. Y sawl a yf o'r gyntaf o honynt a fwynhâ hir oes, ac ni orthrymir ef âg afiechyd; yr hwn a yf o'r ail. a fydd marw o newyn, a gwelwder a braw a eisteddant ar ei bryd; yr hwn a yf o'r drydedd afon a gymerir ymaith gan angau disyfyd, ac ni chleddir ei gorff. Y sawl a ddeisyfant ysgoi y fath alar, ymdrechant ei guddio âg amryw orchuddiadau, ond. pa beth bynag a roddir arno a drawsffurfir yn rhyw sylwedd arall. Canys y ddaear a droir yn geryg; ceryg yn ddwfr; coed yn lludw; lludw yn ddwfr; os gorchuddir ef gyda hwynt. Eithr cyfyd morwyn o'r Llwyn Llwyd i roddi meddyginiaeth o hyny, ac wedi iddi hi dreulio ei holl ddyfais, hi a sych y ffynonau afiach âg anadl ei genau. Wedi iddi ymadloni gyda'r dyfroedd iachedig, hi a ddwg yn ei llaw ddeau goed Celyddon, ac yn yr aswy, furiau Llundain. Mwg brwmstanawl a ddyrch yn ol 'ei throed, pa ffordd bynag y cerdda, yr hwn fwg a fydd ddauddyblyg. Y mwg hwnw a gyffiry wŷr Rodwm, ac a fydd fwyd i'r rhai yn y dwfn. Hi a dywallta ddagrau edifeuriol, a llenwir yr ynys gan ei gwaedd ddiaspad. lleddir hi gan garw deg cainc, pedwar o ba rai a ar- wisgant goronau aur; y chwech ereill a droir yn gym ych gwyllt (buffalo), a'i hysgymun sain a gyffroant dair ynys Prydain. Yna y sychir llwyn Danet, ac â dynawl lef, llefa: — "Dynesa, I Gymru, a gwasga Cernyw wrth dy ystlys; a dywed wrth Gaer Wynt, 'llynced y ddaear dydi.' Symud eisteddfa dy fugail i borthladd llongau, a'r gweddill a'i dilynant. Canys prysura dydd tranc dy drigolion oherwydd eu hanudoniaeth. Gwynder y gwlan a'th neweidia, â'i eiliw amrywiol. Gwae y genedl anudonol, canys y gaer ardderchog a syrth o'i hachos. Y llongau a orfoleddant, ac un a wneir o ddwy. Draenen