Tudalen:Cymru fu.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droir yn afallen, a hono a ddeilia o'r newydd, ac at ei haroglau, amrywiol adar a ymgasglant. Efe a chwanega ati lys mawr, ac â chwe' chan tŵr ei cadarnheir. Wrthi yr eiddigedda Llundain, a'i muriau a chwanega yn dri dyblyg. yr afon Tafwys a'i cylchyna, a chwedlau y weithred a gerddant tros yr Alpau. Ynddi y cudd y Draenawc ei afalau, a gwneir ffyrdd dan ei daear. Y pryd hwnw ceryg a lefarant, a môr Ffrainc a gyfyngir. Gall gŵr oddiar un lan glywed gŵr ar yr lan arall, a chadernid yr ynys a fwynheir. Dirgelion y dyfnder a ddadguddir, a Llydaw a gryna gan ofn. Ar ol hyn y daw aderyn o Iwyn Caledyr (Calaterium), yr hwn a hed oddeutu yr ynys am ddwy flynedd yn olynol. A gwaedd nosawl y casgl hi yr adar, a phob perchen aden a ymgynull ati. Rhuthrant ar lafur yr amaethwr, a grawn yr ŷd a lyncant. O hyn y daw newyn ar y bobl, ac angau gyda'r newyn. Pan elo hyn trosodd, aderyn ysgymun a ddaw i'r glyn Galabes, ac a'i cyfyd yn fynydd mawr, ar gopa yr hwn hi a blana bren, ac yn ei gangau y nytha hi. Dodwya dri ŵy yn y nyth, o ba rai y daw llwynoges, blaidd, ac arth! Y llwynoges a ladd ei man, ac a ymddyg ar ben asen. Yn y dull angenfilaidd hwn y dychryna hi ei brodyr, ac y gwna iddynt ffoi hyd yn Fflandras. Eithr cynhyrfir y baedd ysgythrant i ymosod ar y llwynoges, a chan ddychwelyd yn llynges, ymosodant arni; ac yna hi a ffugia fod yn farw, nes deffro cydymdeimlad y baedd. Efe a ddynesa at ei chelain, a chan sefyll uwch ei phen, anadla gna ei gwyneb a'i llygaid. Hithau, mewn cyfrwysdra maleisus, a afaela yn ei droed, ac a'i tyn oddi wrth y corph. Yna hi a ruthra arno, ac a gipia ymaith ei glust ddeau a'i losgwrn, ac yn ogofau y mynydd yr ymddirgela. Yna y baedd twylledig a gais gan y blaidd a'r arth adferyd iddo ei aelodau colledig, y rhai wedi peth dadleu a addawant ddau droed, llosgwrn achlust y llwyn- oges iddo, ac o'r rhai hyny gwnaed iddo aelodau hwch. Boddlonir ef ar hyn, gan ddisgwyl yr ad-daliad. Yn y cyfamser, y llwynoges a ddychwel o'r mynydd ac a ymrithia yn fleiddast; a than yr esgus o gynal cynadledd gyda'r baedd, hi a ddel ato, ac a'i llwyr ddinystria. Yna hi a ymrithia yn faedd, a chan ffugio bod yn fyr- o rai o'i haelodau, dysgwylia am ei brodyr; ac yna rhuthro arnynt a'u lladd gyda'i hysgyrthrddant; a choronir hi gyda phen llew. Yn ei dyddiau hi y' dygir sarff allan a fydd yn ddinystr i'r hil ddynol. A'i hyd y cylchyna Lundain, a'r hyn a êl heibio iddi hi a'i llwnc. Yr ych mynyddig a