Tudalen:Cymru fu.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gornir ac efe a wna ei ddanedd yn yr Hafren. Efe a gynull ato ddiadellau yr Alban a Chymru, y rhai a yfant yr afon Tafwys yn sych. Yr asen a eilw y bwch. a'r farf hir, ac a fenthycia ei ffurf. yr ych mynyddig a fydd ddigofus -wrth hyn, a chan alw y blaidd try yn darw corniog yn ei herbyn. Yn ei greulondeb, efe a lwnc eu cnawd a'u hesgyrn, ac yntau a losgir ar gopa Arian. Ei ludw a droir yn eleirch, y rhai allant nofio cystal ar dir sych ag ar ddwfr. Hwy a lyncant bysg mewn pysg, a dynion mewn dynion. Eithr yn eu henaint hwy a droir yn fôrfleidd, ac a weithredant dwyll yn yr eigion. Suddant longau, a chasglant arian lawer. Y Tafwys a red eilwaith, a chan gasglu dyfroedd, gorlifa tros ei glanau. Gorchuddia y dinasoedd cyfagos, a'r mynyddoedd ar ei ffordd. a ddistrywia. Wrth hyny, rhoddir ffynon iddo yn llawn o frad ac anwiredd, a chynhyrfir y Gwyneddwyr i frwydrau ac ymladdau. Deri y llwyni a gydgyfarfyddant ac â chreigiau y Deheuwyr yr ymladdant. Y brain a'r barcutanod a larpiant gelaneddau y meirwon. Dallhuan a adeilada nyth ar furiau Caerloew, ac yn y nyth ymddygir asyn. Hwnw a fâg sarff Malfarn, a dysgir iddo lawer o gastiau drygionus. Efe a esgyn i'r goruchelder, ac yn ei law bydd teyrnwialen, a'r wlad a ddychryna wrth ei lais cras. Yn ei ddyddiau ef y mynyddoedd a grynant, a'r glynau a ysbeilir o'u coed. Canys daw pryf ac iddo anadl tanllyd, a chyda ei chwythiad y llysg efe y coed. O hono y daw saith llew ac iddynt benau geifr. Ag anadl ddrewedig eu geneuau y llygrant wragedd, ac yr achosant i wragedd priod droi yn buteiniaid. Y tad nid adnebydd ei blentyn, canys byddant o duedd anifeilaidd a llygredig. Yna y daw cawr anwiredd, ac a ddychryna bawb gyda llymder ei lygaid. Yn ei erbyn y cyfyd draig Caer Wrangon, ond yn y frwydr y ddraig a ga'r gwaetha', ac efe a orthrymir gan anwiredd y gorchfygydd. Canys y cawr a esgyn ar gefn y ddraig, a chan ymddiosg, efe a eistedd arno yn noeth. Y ddraig a dyf, ac a'i cyfyd i fyny i'r uchder, ac a gura ei orchfygydd noeth gyda'i chynffon. Ar hyny y cawr a gasgl ei holl nerth, a chyda'i gleddyf tyr esgyrn ei ên. O'r diwedd, y ddraig a ymblyg o dan ei llosgwrn, ac a fydd farw o wenwyn. Ar ol hwnw y daw baedd Tytneis (Totness), ac a greulawn orthryma y bobl. A denfyn Caerloew allan lew, yr hwn a aflonydda ar ei orthrymder mewn amryw ymladdau. Efe a'i sathr dan ei draed, ac a'i brawycha gyda'i safn agored. Yn y diwedd y llew a ymrysona gyda'r pendefigion, a daw