Tudalen:Cymru fu.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tarw yn mlaen, ac a'i tery ef gyda'i droed deau. Efe a'i hymlid trwy holl westtai y deyrnas, eithr efe a dyr ei gyrn yn erbyn muriau Rhydychain. Llwynoges Caer Dubal ddiala ar y llew, ac a'i dinystria yn llwyr â'i danedd. Neidr Caer Lincol a'i hamgylcha, yr hon mewn chwys brawychus a rybuddia ddreigiau o'i phresenoldeb. A'r dreigiau a ymladdant, ac a dynant eu gilydd yn ddarnau. yr adeiniog a ormesa ar y diaden, ac a blana eu hewinedd yn y gruddiau gwenwynig. Ereill ddeuant i'r frwydr, ac a laddant y naill y llall. Pumed olynydd y rhai a laddwyd, trwy frad a ddinystriodd y gweddill. Efe gyda'i gleddyf a esgyn ar gefn un, ac a dyr ei ben oddi .wrth ei gorff. A phan ymddiosg, efe a esgyn ar gefn un arall. ac a rydd ei ddeau a'i aswy law ar ei gynffon, ac yn noeth efe a'i gorchfyga ef, pryd nas gallai wneuthur hyny yn wisgedig. Y lleill a boena efe yn eu ffoedigaeth, ac a'u hymlid oddeutu y deyrnas. Yna daw llew rhuadwy, dychrynllyd oherwydd ei angenfilaidd greulonder. Pumtheg rhan a wna efe yn un, ac efe yn unig a rydd arglwydd y bobl. Y cawr claerwyn a ymdywyna, nes peri i'r bobl wynion lwyddo. Pleser a ddarostynga y tywysogion, a hwy a drawsffurfir yn fwystfilod. Yn eu mysg cyfyd llew chwyddedig gan waed dynol. Dan hwnw rhoddir medelwr mewn ŷd, yr hwn tra yn medi a ormesir ganddo. Cerbydydd o Gaerefrog a'u heddycha; ac wedi iddo ladd ei arglwydd, efe a esgyn i'w gerbyd. Gyda chleddyf y bygythia efe y Dwyrain, a llenwir ôl ei olwynion gan waed. Yna efe a ymrithia yn bysgodyn y môr ac yn cael ei gynhyrfu gan chwythiad neidr, efe a genedla gydag ef. O hyn y cynyrchir tri tharw taranllyd, y rhai wedi iddynt Iwyr-fwyta eu porfeydd a drawsffurfir yn brenau. Y cyntaf a gluda fflangell o wiberod, ac a dry ei gefn ar y nesaf ato. Hwnw a amcana gipio y fflangell, eithr cymerir hi gan yr olaf. Troant eu hwynebau oddiwrth eu gilydd hyd oni thaflant ymaith y gwpan wenwyn. Dilynir hwn gan amaethion yr Alban, wrth gefn yr hwn y bydd sarff. Efe a aredig y tir fel y byddo wyn y wlad gan ŷd. Amcana y sarff fwrw ei gwenwyn, a thrwy hyny ddyfetha y cnydau. Gan bla marwol yr ysgubir y bobl ymaith, a muriau y ddinas a fyddant annghyfanedd. Caerloew a roddir yn feddyginiaeth, yr hon a fydd yn gyfrwng gan ferch maeth y sawl a ffrewylla. Canys hi a ddwg y cyffyriau, a'r ynys ar fyrder a adnewyddir. Yna dau a lawiant deyrnwialen, ar ba rai y gwasanaetha y ddraig gorniog. Un a ddaw mewn arfwisg, ac a ferchyg