Tudalen:Cymru fu.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ant gyda swn brawychus, ar swn a rwyga'r ser."

Yn ddiau, dyma y dernyn hynotaf a mwyaf dyeithr a chywrain o holl gasgliad hynod ddyeithr a chywraia Gruffydd ab Arthur. Amcanodd llawer hynafiaethydd at esbonio a chysoni dygwyddiadau mewn hanesyddiaeth Brydeinig gydag ymadroddion y broffwydoliaeth hon, ond ychydig fu eu llwyddiant. Gwell ydyw ei gadael lle y mae yn engraifft o ddarfelydd wyllt yr hen Ddewin, canys wrth graffu llawer mewn tywyllwch yr ydym yn dueddol i fyned yn ofergoelus, ac i ffol ddychymygu, fel teithiwr yn y nos.

Y mae Brut y Breninoedd hefyd yn croniclo proffwydoliaeth arall o eiddo yr un oracl. Ymddengys fod Gwrtheyrn yn credu pob gair a ddeuai tros wefusau y proffwyd, a'i fod yn ymgynghori âg ef ar bob pwnc o bwys. Gofynodd iddo unwaith pa beth fyddai ei ddiwedd, ac atebodd Myrddin fod dwy farwolaeth yn ei fygwth — y naill, ei ladd gan y Seison; y llall, ei losgi yn ei gastell gan Emrys Wledig. Dranoeth glaniodd Emrys ac Uthr Bendragon ei frawd, a chyda hwynt ddeng mil o wŷr. Prysurai yr holl Frythoniaid i ymuno dan eu baner, a gwnaethant Emrys yn frenin arnynt. Y weithred gyntaf o eiddo Emrys oedd dial gwaed ei dad a'i frawd. Arweiniodd ei fyddinoedd tua Chymru, gwersyllodd o flaen castell y brenin Gwrtheyrn; ac yn ddioedi gosododd ei beirianau ar waith i ddryllio y muriau. Eithr wedi methu darnio y gaer yn mhob cyfryw ffordd, rhoddasant y lle ar dân hyd oni losgodd y tŵr, a Gwrtheyrn Fradwr ynddo. Dyna oes a diwedd truenus un o dri "Charnfradwyr ynys Prydain."