Tudalen:Cymru fu.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OWEN GLYNDWR.

(Bywgraffiad.)

Rai misoedd yn ol, cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn y pleser o weled un o gastellydd godidocaf Cymru — y CYMRU FU hyny sydd fel hen bensioners methiantus yn llefaru wrth y Cymru Sydd am lafur, dewrder, a bywyd trallodus ein hynafiaid. Gelwid y castell hwn yn y dyddiau gynt y " Castell Coch yn Ngwernfor." Y mae ei adfeilion yn sefyll ar waelod un o'r dyffrynau prydferthaf yn Mhrydain; ac oddeutu'r adfeilion y mae palas tywysogaidd wedi ei adeiladu. Wrth grwydro hyd wahanol neuaddau y palas, arweinid ni i wyddfod dodrefn henafol ac arluniau gwerthfawr. Gwelsom arlun Catrin o'r Berain, yr hon a flodeuai yn yr 16eg ganrif; y fenyw brydweddol a briodwyd bedair gwaith gyda'r pedwar boneddwr boneddigeiddiaf sangodd erioed ar weirglodd-dir Clwyd. Clywsoch, mae yn ddiamheu, am Morys Wyn, brawd yr enwog Syr John Wyn o Wydir, yn cyfarch Catrin ar ei dychweliad o angladd ei gwr cyntaf, ac wrth sylwi ar ei hymddygiad siriol, yn anturio gofyn iddi am ei llaw, ac iddi hithau ei nacau am y rheswm o'i bod wedi ei haddaw i Syr Risiart Clough ar y ffordd i'r angladd; ond, yn rhoddi ei gair, os byth y byddai ei llaw yn rhydd drachefn, y cai Morys Wyn y cynygiad cyntaf arni. Fel y mae chwithaf adrodd, bu Syr Risiart, ei hail wr, farw, a Morys Wyn oedd ei thrydydd. Ar y pared gyferbyn, dacw ddarlun Syr Huw Myddleton, y peirianydd enwog; ac wrth ei ochr arlun y Cadben Wm. Myddleton (Gwilym Canoldref), y bardd. Yr oedd chwe' brawd o'r Myddletoniaid hyn, a'r chwech yn dalentog a gwladgar i'r gen — gwynfyd pe byddai mwy o son amdanynt yn mysg eu cenedl, a mwy o'u cenedl ar eu delw.

Ond yr hyn â'n dênodd i'r Castell y bore hwnw oedd chwilfrydedd i weled arfwisg Owen Glyndwr. Buom yn syllu arni yn nhymor hafaidd bachgenoed, ond rywfodd yr oedd awydd ynom am ei gweled eilwaith. Y pryd hwnw safai mewn arfdy hir, llawn o waywffyn, cleddyfau,