Tudalen:Cymru fu.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peisarfau, a chywrain-bethau henafol eraill; eithr yr arfwisgoeddy gwrthrych mwyaf dyddorol o'r cwbl. Yno yr ydoedd yn amgylchu rhyw sylwedd annhyblyg, gan arddangos ei meddianydd dewr gynt fel gwr tâl, lluniaidd, a hardd anarferol. Erbyn ymholi am yr Arfdy Hir, cawsom ei fod wedi ei gau, a'i holl drysorau dyddorol "wedi eu chwalu yma ac acw hyd y palas. Yr oedd yr Arfwisg wedi ei symud i'r Servants' Hall, lle y gwelais hi y bore hwnw uwchlaw y tân, ac wrth syllu arni yr oedd fy ngwaed Cymreig yn berwi. Dacw hi yn ei chrwcwd — yn wârgam a gârgam— ar fantell y simnai, a nen yr ystafell yn rhy isel i'w ffurf fawreddog allu sefyll yn syth, ac yn dangos Glyndwr allan fel rhyw gorach crebachlyd, afluniaidd, ac anhardd. Rhedodd fy meddwl at drais Offa, a lorwerth, a mân-arglwyddi Normanaidd y Cyffiniau, a gwelwn halogiad yr Arfwisg hon yn cynrychioli eu holl esgelerderau — yr yspryd o daro'r gwan a diystyru bedd gelyn. O, Gedeon dy genedl! pwy feiddiasai anffurfio dy arfwisg pan y gwisgid hi gan y dewr a'r beiddgar Owen! Cawsai y cyfryw deimlo pwys dy ddwrn a blaen dy ddagr. Eithr dyma derfyn pob rhwysg a mawredd bydol. Pan ddarfyddo bywyd, y mae'r corph a'i addurniadau mewn perygl; a phan rydo'r cledd, y mae gelyn gerllaw.

Ganwyd Owen Glyndwr, yn ol rhai awduron, ar yr '28ain o Fai, 1349. Hynodid y flwyddyn hono, meddant, gan bla dinystriol iawn trosEwrop oll; a'r noson y ganwyd ef gan ystorm ddychrynllyd, a chan olygfeydd annaearol, megys ceffylau ei dad yn yr ystablau at eu tôrau mewn gwaed, yr hyn oedd yn rhagarwyddo ei fywyd rhyfelgar a gwaedlyd. Y mae Shakespeare, yn Harri IV, yn gwneud defnydd tarawiadol o'r traddodiad hwn. Gesyd y geiriau canlynol yn ngenau ein harwr pan yn ymdderu gyda Hotspur: —

Pan anwyd fi,
'Roedd gwyneb nef yn llawn o ffurfiau tanllyd,
A rhedai'r geifr o'r bryniau; a'r diadelloedd
Ddieithr frefent yn y meusydd dychrynadwy:
'R arwyddion hyn a'm hynodasant i,
A holl droellau'm bywyd a ddangosant
Fy mod uwchlaw cyffredin ddyn.