Tudalen:Cymru fu.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y llinell hono yr oedd ei uchelgais ef yn gorwedd; torodd ei dueddiadau naturiol yn fuan tros ben ei addysg a'i ddygiad i fynu. Yn swn arfau rhyfel yr oedd ei anian ryfelgar ef yn cael boddhad. Newidiodd y wig am y llurig, a'r ysgrifbin am y cledd; a brwydrau y pin a'r tafod, am frwydau y pen a'r gewynau. Ymunodd â byddin Risiart ll, a gwasanaethai fel cadben yn y fyddin hono yn yr Iwerddon yn y flwyddyn 1394. Sylwodd y brenin ar ei degwch a'i wroldeb, ac etholodd ef yn im o'i warchlu; wedi hyny llanwodd y swydd o Ystafellydd i'w Fawrhydi. Gwnaed ef hefyd yn Farchog, canys yn y cyngaws cyfreithiol rhwng Richard le Scrope a Syr Robert de Grosvenor, daw yn mlaen fel tyst tan yr enw Syr Owen de Glendore, Mae yn ddiamheu ei fod mewn ffafr uchel gyda'r brenin Risiart; er mai brenin afradlon diofal ydoedd, a chostiodd hyny iddo yn y diwedd ei goron a'i ryddid. Tra yr oedd efe yn gostegu gwrthryfel yn yr Iwerddon, Harri Bolingbroke, ei gefnder, o dir ei alltud- iaeth — Ffrainc, a laniodd yn swydd Yorc gyda thriugain o ddilynwyr, ac ymdyrodd y Saeson tan ei faner. Pan glybu y brenin am hyn, efe a brysurodd tuag adref; glaniodd yn Aberdaugleddyf; ond yr oedd serch ei ddeiliaid wedi cilio; bu yn crwydro o'r naill fan i'r llall yn Nghymru, gan ymlechu yn ei hamddiffynfeydd, hyd oni ddaliwyd ef yn y diwedd gan ei wrthwynebydd yn Nghastell Fflint, ac y darbwyllwyd ef i roddi ei goron i fynu. Yr oedd Owen gyda'r brenin pan gymerwyd ef, ac wrth ddychwelyd i'w arglwyddiaeth, ysgarwyd ef a breninoliaeth Lloegr am byth— o hyn allan meddyliai am dani i'w chashau; ac ni chyfarfyddodd mwyach â hi. ond fel gelyn diymwad a gwrthwynebydd dewr ac anorchfygol.

Ni a'i dilynwn i Lyndyfrdwy, neu yn hytrach i Sycharth, yn nyffryn Llansilin, canys yno yr oedd ei balas arosol, a chanddo etifeddiaeth yno yn ogystal ag ar lanau'r Dyfrdwy. Dywedir dad oedd ei etifeddiaethau oll nemawr llai na deugain milldir ysgwâr. Treuliodd dair neu bedair blynedd mewn dinodedd yn Sycharth, yn nghanol ei gydwladwyr a'i denantiaid, yn croesawu beirdd a chy- feillion, ac yn mwynhau holl ddyddanwch y boneddwr gwledig. Yn yr amser hwnw arferai'r boneddwr Cymreig gynal ei fardd fel y cynaliai'r Sais a'r Ffrancwr, yn yr Oesoedd Canol, eu ffwl. Gwaith y beirdd hyn oedd cadw achau eu noddwyr, cyfansoddi mawlgerddi iddynt, a dyfyru yn eu gwleddoedd; pan fyddai heddwch, adloni oriau hamddenol — pan fyddai rhyfel, cyffroi teimladau