Tudalen:Cymru fu.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brydiau yn sturmantu ei alarnad "adgof uwch angof," a elwir llwyn Sycharth; a phentref bychan islaw yn parhau i drosglwyddo yr enw Sycharth i'r dyfodiant. Y mae'r afonig oedd yn cyflenwi'r ddyfr-ffos, ac yn troi olwynion y felin, yn parhau i redeg; ond glaswellt a orchuddia lawr y neuaddau, lle bu'r gân, y ddawns, a'r llawenydd. Gan mai coed oedd defnydd y palas hwn, ymddengys iddo gael ei losgi yn lludw, gan elynion ei berchenog, cyn diwedd y gwrthryfel, ac na wnaeth neb gais byth drachefn at ei ailadeiladu.

Y "wraig oreu o'r gwragedd " oedd Margaret, merch i Syr Dafydd Hanmer, o Sir Fflint, marchog o gread Risiart II., ac un o farnwyr mainc y brenin hwnw. Cymerodd y briodas hon le yn y flwyddyn 1383, ac ohoni bu chwech o feibion, dywedir, a phump o ferched. Bu ei feibion yn gwasanaethu fel swyddogion yn ei fyddin; a dywed Mr. Browne-Willis, yn Hanes Eglwys Cadeiriol Llanelwy, eu bod ar farwolaeth eu tad wedi ffoi i'r Iwerddon; i un o honynt ymsefydlu yn Dublin, tan yr enw Baulf, neu y cryf, a'i fod yn hynafiad i deulu anrhydeddus yn y ddinas hono. Priododd y merched i deuluoedd parchus. Isabella, yr henaf, a briodes Adda ab lorwerth Ddu; Alis, yr ail, Syr John Scudamore o Ewyas, yn sir Hereford; Janet, y drydedd, John Croft, o Gastell Croft, yn yr un sir; Margaret,yr ieuengaf, Roger Monnington, o sir Hereford, ar derfynau Brycheiniog; Jane, Arglwydd Grey, o Ruthyn, ar ol ei ryddhau o garchar gan ei thad. Yr oedd y priodasau hyn yn bwysig, gan fod dylanwad gwladol Owen yn ymledu gyda phob un ohonynt; ac yr oedd ei feibion yn nghyfraith o blith tir-feddianwyr mwyaf y Cyffiniau — dosbarth tra defnyddiol yn nwylaw unrhyw benaeth gwrthryfelgar Cymreig.

Wele ni wedi dwyn ein harwr a'i amgylchiadau, yn ei ddinodedd, mewn cymhariaeth, hyd derfyn y 14eg ganrif, ac hyd at geulan y gwrthryfel; ond cyn y gellir iawn ddeall nodwedd y dyn, rhaid deall nodwedd ei oes. Er fod 120 mlynedd er pan gollasai'r genedl ei rhyddid, nid oedd awydd cysegredig am ryddid wedi diffodd yn ei phlith erbyn dyddiau Owen. Ỳn ystod y cyfnod hwn, ymdrechasant amryw weithiau fwrw ymaith iau eu gorthrymwyr. Rhys ab Meredydd a godes mewn gwrthryfel yn y Deheubarth, ac a barodd llawer o helbul a thrafferth i'r brenin cyn y gallesid ei ddarostwng. Drachefn, bu codiad cyngreiriol rhwng Malgwyn Fychan.yn Mhenfro a Cheredigion; Morgan, yn Morganwg; a Madawg, mab