Tudalen:Cymru fu.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

distryw, ac efe a anogodd y llywodraeth i gymeryd pwyll, a mabwysiadu moddion mwy heddychol; gan ei sicrhau nad oedd Owen fel gelyn iw ddibrisio, ac y byddai i'r holl genedl ei gefnogi mewn gwrthryfel. Ond gwawdiwyd y bygythiad, a diystyrwyd y cynghor, gan haeru nad oedd fawr berygl oddiwrth rhyw -werinos traed-noethion anwybodus felly.

Erbyn hyn.yr oedd cymylau rhyfel yn prysur ymgasglu. Y beirdd yn goraian molawdiau Owen; y brudwyr yn prophwydo mai efe oedd gwaredydd ei genedl rhag trais yr estron, ac yn dyfynu rhanau o Brophioydoliaeth yr hen Fyrddin Ddewin, gan eu dehongli mai GÍyndwr oedd y "Ddraig Goch,"oedd i ail ddyrchafu hil Gomer yn ben yr Ynys hon, a gwisgo coron Prydain. Yr oedd teimladau y bobl yn dadebru, a'u calonau ar dân am ddial cam eu cydwladwr ar eu caseion. Credent fod gwawrddydd eu rhyddid ar dori; a llwyr waredigaeth eu hynys oddiwrth eillion gormesol gerllaw. Yr oedd y wlad benbwygilydd yn oddaith am ryfel; a thafodau gelynion Owen yn glynu "wrth daflod eu genau — ni feiddient yngan gair yn erbyn y teimlad brwdfrydig hwn. Cam Owen, a'r modd i'w ddial, oeddynt destynau ymddiddan arglwydd wrth arglwydd, a gwladwr wrth wladwr— hyd y prif-ffyrdd a'r meusydd, ac ar yr aelwyd gysegredig fynyddig.

Erbyn canol haf y flwyddyn 1400, wele Owen a thua phedair mil o ddilynwyr, tan arfau, yn cynwys y gwlad- garwyr mwyaf aiddgar, a'r sawl ag yr oedd ganddynt rhyw gam neillduol i'w ddial ar y gelynion, ac edmygwyr a Ffyddloniaid personol y penaeth dewrgalon ei hun. Cymerasant feddiant o eiddo cyfagos ei arch-elyn, Reginald de Grey. Dyna eu gweithred gyntaf, a'r dull hwn a gymerasant i gyhoeddi rhyfel. Mae yn ddiddadl fod y Saeson wedi cadw llygad gwyliadwrus ar eu parotoadau, ac yn hysbys o'u holl ysgogiadau; canys danfonodd y brenin yr arglwyddi Talbot a Grey, gyda byddin luosog, y rhai a ddisgynasant mor ddisymwth ar amddiffynfa ein harwr, fel y bu agos iawn iddynt ei ddal, a damwain a roddodd gyfle cul iddo ddianc i'r coedwigoedd. Nid rhyw ddechreuad calonog ar ryfelgyrch oedd tro fel hwn; ond nid gwr i ddigaloni oherwydd un anffawd oedd Owen Glyndwr. Cynullodd fyddin gryfach nag o'r blaen, ac wedi i hono ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru, ymdeithiasant tua Rhuthyn. Cyrhaeddasant ar yr 20fed o Fedi, a chynhelid ffair yno ar pryd; ymosodasant yn ebrwydd, gan gymeryd meddiant o'r eiddo, ac yn y diwedd llosgi y lle yn domen o ludw.

Èrbyn canol haf y äwyddyn 1400, wele O'wen a thua phedair mil o ddilynwyr, tan arfau, yn cynwj's y gwlad- garwyr mwyaf aiddgar, a'r sawl ag yr oedd ganddynt rhyw gam neiUduol i'w ddial ar y gelynion, ac edmygwyr a fiFyddloniaid personol y penaeth dewrgalon ei hun. Cym-' erasant feddiant o eiddo cyfagos ei arch-elyn, Eeginal'd de Grey. Dyna eu gweithred gyntaf, a'r duíl hwn a gymer- asant i gyhoeddi rhyfel. Mae yn ddiddadl fod y Saeson wedi cadw llygad gwyliadwrus ar eu parotoadau, ac yn hysbys o'u hoU ysgogiadau ; canys danfonodd y brenin yr arglwyddi Talbot a Grey, gyda byddin luosog, y rhai a ddisgynasant mor ddisymwth ar amddiöynfa ein harwr, fel y bu agos lawn iddynt ei ddal, a damwain a roddodd gyfle cul iddo ddianc i'r coedwigoedd. Nid rhyw ddechr- euad calonog ar ryfelgyrch oedd tro fel hwn ; ond nid gwr i ddigaloni oherwydd un anfí'awd oedd Owen Glyndwr. Cynullodd fyddin gryfach nag o'r blaen, acwedi ihonoei gyhoeddi yn Dyu-ijsog Cymru, ymdeithiasant tua Ehuthyn. Cyrhaeddasant ar p- 2Öfed o Fedi, a chynhelid ífair yno ar pryd ; ymosodasaut yn ebrwydd, gan gymeryd meddiant o'r eiddo, ac yn y diwedd Uosgi y lle yn domen o ludw.