Tudalen:Cymru fu.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan hyny, atynt, fy mechgyn i, ac nac arbedwch un einaid ohonynt." Enynodd y geiriau. hyn deimladau y dynion; rhuthrasant ar eu gelynion; parhaodd brwydr galed am ddwy awr, pryd y dechreuodd y Ffleminiaid Iwfrhau, ymollwng, a ffoi; erlidiwyd hwynt, a chawsant gurfa enbyd. Cymerodd hyn le ar fynydd Hyddgant; a darfu i'r Ffleminiaid golli rhwng pump a chwe' chant o wyr. Chwanegodd y fuddugoliaeth hon lawer at enwogrwydd Glyndwr fel rhyfelwr; lluoedd lawer a ymgasglent tan ei faner, nes ei wneud yn elyn mwy peryglus nag erioed.

Pan glybu y brenin am hyn, yn nechreu Mehefin efe a ddaeth i Gymru gyda byddin gref o haner can' mil o wyr. Dinystriasant fynachlog Ystrad fflur; yspeilient y wlad o'i golud ffordd y cerddent; ac yn eu cynddaredd, llosgent y cnydau ar y meusydd er mwyn tlodi y genedl i'r graddau eithaf. Ond gorfu ar Harri yn fuan encilio mewn gwarth i'w wlad, wedi colli nifer mawr o'i ddynion trwy newyn ac ymosodiadau bychain a pharhaus ein cydwladwr. Cyfarfyddodd a chwe' mil ohonynt ar lan yr Hafren un diwrnod oer, dryghinog, ac er nad oedd rhifedi ei wyr ef ond dwy fil, eto gan ladd llawer a boddi eraill ohonynt, cafodd Owen Iwyr fuddugoliaeth arnynt.

Pa fodd bynag, tybir ddarfod i'r brenin gyrhaedd un dyben pwysig yn y rhyfelgyrch hwn, sef llwgrwobrwyo tua deg ar hugain o foneddigion pleidiol i'r gwrthryfel, y penaf o ba rai oedd Gwilym ab Tudur. Wrth reswm, yr oedd colli cynifer o wyr dylanwadol yn golled fawr; ond rywfodd yr oedd cyfeillion purach yn codi yn eu lle; ac ac Owen mor llwyddiauns, nes y penderfynodd y brenin ddyfod y drydedd waith yn ei erbyn. Cychwynodd y rhyfelgyrch hwn o Worcester, y dydd cyntaf o Hydref— adeg dra anfanteisiol ar y flwyddyn i allu ymosodol dalu ymweliad â Chymru. Dywed Carte, yr unig hen hanesydd sydd yn crybwyll am dynged y rhyfelawd hwn, ei fod yn llawn mor anffodus ag uno'r rhai blaenorol. Dychwelodd y brenin erbyn gwyliau'r Nadolig. Felly terfynodd ail fwyddyn y gwrthryfel.


1402.

Dichon mai hon ydyw y flwyddyn fwyaf doreithiog o ddigwyddiadau pwysig o holl flynyddoedd y rhyfel. Ar ei dechreuad, ymddangosodd comed fawreddog, a'r brudwyr a'r beirdd Cymreig a ganfyddent ynddi ragarwyddion rhyfedd. Y mae cywydd iddi yn ngwaith Iolo Goch, yn mha un cymherir ei hysplandei i'r seren ymddangoses pan