Tudalen:Cymru fu.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anwyd Gwaredwr y byd; ac i'r wib-seren yn amser Uthr Pendragon, pan anwyd Arthur; y tair yn dynodi personau a digwyddiadau pwysig a mawreddog. Dywed y bardd mai "draig [baner-arwydd yr hen Gymry] oedd i Owen;" ac, yn ol ei ddymuniad ei hun, prophwyda: — •

Uchel y mae uwchlaw Môn
Yn ngolwg yr angylion.
Y naill a gawn, gwiwddawn gwyr,
Ai Pab ai brenin pybyr:
Brenin hael am win a mêdd,
Dewr a gawn o dir Gwynedd.
Duw a ddug, fo'n diddigia,
Gwynedd i gael diwedd da."

Bu y gomed a'i hesbonwyr yn dra gwasanaethgar i achos yn mysg cenedl mor hygoelus ag oeddynt y Cymry y pryd hwnw; ac yn wir, am hir amser gallesid tybied fod pob darogan i gael ei wirio. Grey, yn ei fost wag, a roddodd ei fryd ar fod yn offeryn i'w waredu ei hunan a'r Saeson rhag eu gelyn trafferthus o Lyndyfrdwy. Casglodd fyddin o 15,000 o wyr; cyfarfyddodd Glyndwr ef ar lan yr afon Fyrnwy, yn sir Drefaldwyn, gyda 6,000 o wyr traed, a 3,000 o wyr meirch. Bu yno frwydr galed; ond gorfu ar Grey a'i fyddin ffoi, a gadael 2,000 o laddedigion ar y maes. Ffôdd i'w gastell ei hun yn Rhuthyn, ac ymlidiodd' Owen ef gyda chant o wyr hyd i'r gymydogaeth hono. Ac er mwyn tynu sylw Grey at eu nifer bychan, a'i abwydo i'w cynllwyn, dechreuasant ddinystrio meddianau ei gymydogion; llwyddodd y ddyfais; rhuthrodd Reginalld yn rhy fyrbwyll i' w plith, a syrthiodd i'r fagl. Dygwyd ef yn garcharor i ryw gadarnfa anhygyrch yn Eryri, lle y bu am, hir amser, a gorfu i'r brenin yn y diwedd dalu y swm mawr (y pryd hwnw) o P.6,666 13s. 4c., am ei ryddhâd.

Wedi i Grey ad-feddianu ei gyfoeth a'i freintiau, efe a briodes Jane, merch i Glyndwr. Dywed rhai fod y briodas hon yn erthygl yn nghytundeb ei ryddhâd; ac eraill, fod gan Grey ddyben gwladol i'w enill trwyddi, sef ei ddyogelwch parhaol ei hun a'i bobl rhag Ymosodiadau y penaeth Cymreig. Ond y mae yn hawddach credu mai gweinyddu balm cydymdeimlad i'r carcharor Grey yn oriau digysur ei gaethiwed a ddarfu i'r foueddiges Jane Fychan, ac i hyny greu cariad rhyngddynt, ac i'r cariad ddiweddu mewn priodas; a dichon fod rhyw serch-chwedl ddyddorol iawn yn nglyn a'r garwriaeth hon.

Wedi i'n harwr ddyogelu y gelyn hwn, efe a roddodd y ffrwyn ar wâr ei ddialedd tuag at amryw eraill o'i elynion.