Tudalen:Cymru fu.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Castell Caemarfon y pryd hwnw tan ofal Ieuan ab Meredydd o Gefn y Fan, a Hwlkin Llwyd o Lynllifon, dau elyn calon i Glyndwr; ac wedi iddo losgi eu palasau, efe a warchaeodd arnynt yn y Castell. Bu Ieuan farw tua'r amser yma, ac mor ddyfal oedd y gwarchae, fel y gorfodwyd iddynt ddwyn y corph i Benmorfa i'w gladdu mewn ysgraff hyd y dwr.

Tua'r amser yma hefyd y tywalltodd Owen ei lid ar y gwyr eglwysig a ogwyddent at y Saeson. Dinystriodd fynachiogydd Bangor a Llanelwy; Risiart Tounge oedd esgob y lle blaenaf, a Trevor yr olaf. Rhyw geiliog gwynt gwleidyddol oedd Trevor — pluen boliticaidd yn cael ei chwythu gyda'r gwynt. Fel y gellir casglu oddiwrth ei rhybudd yn y Senedd, yr oedd yn ochri at Owen pan ddechreuodd y rhyfel; ond yn fuan cawn ef wedi ymwerthu i wasanaeth y traws feddianwr Harri, yn bleidiwr gwresog iddo, ac yn genhadwr neillduol trosto i lys Spain. Yn mhen dwy flynedd ymunodd drachefn gyda symudiad Owen; gwasanaethai mewn arfau tano yn y flwyddyn 1409, ac er syndod pawb a'i hadwaenai, glynodd wrtho hyd oni ddirywiodd achos Owen, pryd yr enciliodd efe i Ffrainc, lle y bu farw, a dodwyd ei esgyrn lluddedig i orphwys yn mynachlog St. Victoire, Paris.

Yr oedd Harri fel pe buasai yn caru yn Nghymru — yn mynd i weled ei gariad unwaith bob haf; ac mor sicr a'i fyned, yn gorfod dychwelyd yn siomedig, mewn gwarth ac aflwyddiant. Danfonodd wys at siryddion 34 o siroedd Lloegr, yn gorchymyn iddynt gynull gwyr i'w gyfarfod ef yn Lichfield, ar y 7fed o Orphenaf; ond cyn iddo gael y byddin hon yn nghyd, daeth newydd drwg o Gymru fod Owen wedi curo Syr Edmund Mortimer mewn brwydr fawr. Oherwydd hyn gohiriwyd y rhyfelawd hwn.

Boneddwr cyfoethog yn sir Hereford oedd Mortimer, ac ewythr a gwarcheidwad i'r iarll ieuanc March. Bachgen deg oed oedd March y pryd hyn, a chadwai y brenin ef tan wyliadwriaeth ddyal, rhag ofn i'r bobl roddi eu bryd arno a'i wneud yn frenin, gan ei fod yn hanu o Dug Clarence, mab Edward III., a chanddo gryfach hawlia i 'r orsedd nag oedd gan Harri ei hun. Anhawdd ydyw dirnad pa beth a achosodd yr elyniaeth rhwng Mortimer ac Owen. Yr oedd Harri yn elyn i'r ddau, a'u haflwyddiant hwy yn rhwym o fod yn llwyddiant iddo ef; pa fodd bynag, dyna fel y bu. Cymerodd brwydr galed le rhyngddynt ar fynydd y Brynglas, yn sir Faesyfed, ar yr 22ain o Fehefin. Ymddygodd Mortimer yn hynod o ddewr yn mhoethder y