Tudalen:Cymru fu.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fostfawr y Saeson. Bu cenllys yn fwy effeithiol lawer gwaith na thân-belenau yr anelwyr cywiraf. Ac er mwyn celu gwaradwydd yr aflwyddiant hwn, y Saeson a briodolent eu hanffawd i fedrusrwydd Glyndwr mewn swyngyfaredd; "yr hwn," ebai Holinshed, "trwy ddewiniaeth a barodd i'r fath wyntoedd, tymhestloedd, gwlaw, eira, a chesair, boeni byddin y brenin, na chlybuwyd erioed am eu bath."Dichon ei fod, er mwyn brawychu ei gaseion ac ymddyrchafu yn nhyb ei gydwladwyr, yn honi gallu Swyngyfareddol — yn marchog ar ofergoeledd ei oes.

Pan oedd Harri yn llawn tristwch oherwydd ei anffodion yn Nghymru, cafodd y newydd calonogol o'r Gogledd fod larll Northumberland wedi gorchfygu byddin fawr y Scotiaid, a llawer o'r swyddogion Scotaidd wedi eu lladd, eraill wedi eu cymeryd yn garcharorion, yn mysg yr olaf o ba rai yr oedd larll Douglas, ei llywydd enwog. Esgorodd y frwydr hon ar ganlyniadau pywysig, yn enwedig i deulu y .Percies (Northumberland). Yn yr amseroed hyny, eiddo y buddugoliaethwr oeddynt ei garcharorion rhyfel, a phwy ;bynag fyddai yn ddigon ffodus i gymeryd carcharor, ar ei law ef yr oedd ei ryddhau, a'i eiddo ef oeddynt yr arian a delid am ei ryddhad. Ar draws yr hen ddefod hon, danfonodd Harri yn gwahardd i Northumberland roddi y ; carcharorion i fyny, eithr eu trosglwyddo i' w gadwedigaeth , ef ac er mwyn llyfnhau ychydig ar erwinder yr hawliad hwn, y brenin a ganiataodd llawer o diroedd ar gyffiniau Scotland i'r iarll. Ond nid oedd yr abwyd hwn yn ddigon gan y Percies, gollyngasant y Scotiaid yn rhydd, a thrwy hyny enillasant gydymdeimlad a chefnogaeth Douglas a'i gydwladwyr o'u tu. Yr oeddynt wedi tori gorchymyn y brenin, ac oherwydd hyny yn wrthryfelwyr yn erbyn ei awdurdod; o ganlyniad, nid oedd ganddynt ond dysgwyl cosp, a pharotoi ar ei gyfer.

Erbyn hyn yr oedd ysprydoedd gwrthryfelgar gwahanol barthau y deyrnas yn tueddu at ymgasglu yn nghyd; a thrwy uno eu byddinoedd, yn bygwth gwneud gelynion cedyrn iawn i Harri. Yr oedd Northumberland eisoes mewn cyngrair gyda'r Scotiaid; ac ymddygai Glyndwr yn y dull mwyaf hynaws tuag at ei garcharor Syr Edmund Mortimer, gan adgoffa iddo hawliau ei deulu i orsedd Lloegr. Yr oedd pob gelyn i Harri yn gyfaill i Owen. Rhyddhawyd Mortimer; ffurfiwyd cyngrair rhyngddo ef. y Percies, a'r penaeth Cymreig; ac yn y cyngrair hwi w penderfynent adael rhwng y Percies a'r Scotiaid am wlad yr olaf, a rhanu y gweddill o'r Ynys cyd-rhyngddynt.