Tudalen:Cymru fu.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hysbys, cymerwyd gafael arno, a charcharwyd ef am ddeng mlynedd, sef hyd y flwyddyn 1412; ac oni bai gwrthwynebiad Owen i dywallt gwaed y diwrnod llawen hwnw, diau na buasai einioes Gam o nemawr werth. Yna Glyndwr a anrheithiodd ei etifeddiaeth, ac a ddialodd gamwedd yr arglwydd ar y deiliaid, trwy ddinystrio eu meddiannau, a llosgi eu haneddau. yna yr- oedd y Gryrnigwen, palas Gam, yn fflamio ac yn mygu, galwodd Owen un o'r gweision ato ac adroddodd wrtho y lliuellau cellweirus a ganlyn: —

O gweli di wr coch, Cam,
Yn ymofyn y Gyrnigwen,
Dywed ei bod hi tan y lam,
A nod y glo ar ei phen.


1403.

yr oedd pob plaid yn gwneud parotoadau mawrion yn nechreu y flwyddyn hon. Hotspur (yr enw a roddid ar Henry Percy, mab rhyfelgar ac enwog larll Northumberland), gan adael ei dad yn glaf yn Berwick, a ymdeithiodd o'r gogledd hyd i sir Gaerlleon, ac yno llawer o bleidwyr y diweddar frenin a ymunasant ag ef. Anfonodd at Owen yn deisyf arno yntau ei gyfarfod, ond ein cydwladwr gwyliadwrus a nacaodd; eithr er hyny llawer o Gymry ddaethant tan faner Hotspur. Ei faner-arwydd oedd yr un a baner-arwydd y diweddar frenin sef llun carw. YnLichfield cyhoeddodd ei resymau tros gymeryd arfau yn erbyn y brenin. Oddi yno ymdeithiodd tuag Amwythig, gan fod ei fyddin ef yn rhy wan i gymeryd y maes ei hunan yn erbyn lluoedd lluosocach ddwywaith ei fawrhydi, a chan ddysgwyl dyfodiad Glyndwr. Ymddengys fod rhyw annealltwriaeth rhwng y Cyngreiriaid, neu ynte fod Owen yn tori y cyfamod, a thrwy hyny yn twyllo ei gyfaill. Ond Pennant a amddiffyna ein harwr rhag y cyhuddiad hwn trwy ddywedyd ei fod yn y cyfamser yn prysur gasglu, drilio, a pharotoi ei wyr; ac o ganlyniad yn anaddfed i gymeryd rhan mewn brwydr apwyntiedig ac ymosodol.

Yr oedd y brenin yn canfod fod peryglon enbyd yn ei amgylchynu, a dechreuai drefnu cynlluniau er dyogelu ei goron. Yn mis Mawrth, apwyntiodd ei fab, Harri o Fynwy, yn rhaglaw ar Gymru oll, er nad oedd hwnw ond bachgen ieuanc pumtheg oed. Danfonodd wys hefyd at sirydd sir Caerloyw, yn erchi iddo amddiffyn Cyffiniau Cymreig y sir hono gyda phob moddion cyrhaeddadwy. Yna teithiodd ar ffrwst mawr tua Burton ar Trent, gan ddysgwyl cyfarfod gyda Hotspur a'i fyddin. Deallodd