Tudalen:Cymru fu.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghyd, a gwaeddodd mewn llais crug egniol, "Harry Percy yn farw!" tra yr oedd y blaid arall yn ei brwdfrydedd yn parhau i waeddi, Harri Percy frenin. Ond pan ddeallodd y gwrthryfelwyr mai gwir ddarfod i'w penaeth syrthio, llwfrhaodd eu hyspryd, a therfynodd y frwydr bron yn uniongyrchol mewn buddugoliaeth Iwyr, fawr, i'r brenin.

Yn y cyfamser yr oedd Glyndwr wedi ymdeithio o fewn milldir i Battlefield, a dim ond yr afon Hafren, yn yr hon yr oedd llifeiriant mawr ar y pryd, yn ei luddias i gymeryd rhau yn ngwaith y dydd. Dangosir derwen yn yr ardal hono, yn mrigau yr hon, meddai traddodiad, y treuliodd efe ran fawr o'r dydd yn gwylio ysgogiadau y pleidiau. Beïir ef yn dost, gan yr haneswyr Cymreig, am esgeuluso cymeryd mantais o bontydd yr Amwythig i groesi yr afon; tra y cyfiawnheir ef gan eraill trwy ddweyd fod y pontydd hyny yn cael eu gwarchod yn ddyfal gan wyr y brenin, a bod gallu bychan yn abl i gadw pont yn erbyn gallu deg gwaith eu rhifedi. Pa fodd bynag, nid ymddengys i ni fod gan Owen nemawr o hyder yn Hotspur trwy yr holl ymdrafod, a dichon fod ei farn yn gywir yn hyn, gan mai gwr uchelfrydig a balch oedd Hotspur, er yn rhyfelwr dewr a medrus. Ond rhaid ini gyfaddef annghywirdeb egwygddor ein harwr yn yr amgylchiad hwn. Paham yr aeth i gyfamod o gwbl ag ef — paham yr hudodd ef o'i wlad ar y telerau o'i gynorthwyo? — paham y safodd draw oddiwrtho yn awr ei berygl? Nid oedd Glyndwr ond meidrol; ac yr oedd ei gasiueb at y Saeson y fath fel nad ystynai y cytundeb mwyaf pendant ag un ohonynt yn rhwymedig.

Ar ol y fuddugoliaeth hon, y brenin a ymdeithiodd tua'r Gogledd, lle y gwnaeth efe heddwch gyda larli Northum- berland, tad yr anffodus Hotspur. Yua dychwelodd at Gyffi ni au Cymru ar y bwriad o gosbi Owen a'i ddilynwyr, ond gorfodwyd ef i ymatal oherwydd prinder ariau a lluniaeth i'w filwyr. Arfaethodd gyflenwi yr angen cyutaf trwy drawsfeddianu eiddo eglwysig; ond lluddiwyd ef ya hyn hefyd gan Archesgob Cauterbury, yr hwn a'i rhy- buddiodd nad oedd i gyíîwrdd â'r cyfryw eiddo, a thrwy hyny cafodd Owen lonyddwch.

Dyna sefyllfa y pleidiau pan y torodd arnynt wawr y flwyddyn

1404.

Yn holl ryfeloedd y Cymry yn erbyn y Saeson, caent