Tudalen:Cymru fu.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydymdeimlad, ac weithiau gynorthwy Ffrainc, oherwydd mae yn debyg fod llawer ohonynt yn hanu o'r un cyff genedl; ond yn benaf, am eu bod yn cydgasau y Saeson. Y flwyddyn hon gwnaed cyngrair rhwng Owen â Ffrainc; er fod yr olaf, oherwydd prinder arian, wedi arwyddo truce gyda Harri i barhau am ddeng mlynedd ar hugain, eto nid oeddynt erioed wedi cydnabod ei hawliau i goron Lloegr. Y mae yn ddiddadl fod dealltwriaeth rhwng y brenin Ffrengig Charles, â'r Cyngreiriaid, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf — fod y Ffrancod i ymosod ar ororau deheuol Lloegr, tra y byddent hwythau yn tynu sylw y brenin at y parthau gogleddol; canys yn ystod yr holl amser hwn yr oedd llynges Ffrainc yn gwibforio y glanau tan gochl gwahanol esgusodion, ac un tro tiriodd rhan o honi ar yr Ynys Wyth (Wight), a gwnaethant gryn lawer o ddifrod. Yr oedd y Saeson yn canfod y cyfeillgarwch elwgar hwn oedd yn bodoli rhwng y Cymry a'r Ffrancod, ac yn gwybod ei fod yn sylfaenedig ar eu gelyniaeth atynt hwy. a gwnaeth eu Senedd ddeddff nad oedd i Ffrancwr na Chymro wasanaethu o gwmpas person eu brenin.

Ond yn nghorph y flwyddyn hon, gwnaed cyngrair ffurfiol, ymosodol ac amddifîynol, rhwng y ddwy genedl. Anfonodd Owen ei ganghellydd, Gruff. Younge, archddeon Meirionydd, a Syr John Hanmer, yn llysgenhadwyr trosto i Paris. Arwyddodd eu papurau yn Nolgellau, ar y 10fed o Fai, yn mha rai yr ymgyfenwai yn "Dywysog Cymru." Cawsant dderbyniad croesawus; arwyddasant y cytundeb ar ran eu penaeth ar y 14eg o Fehefin, yn mhalas Canghellydd Ffrainc, tra yr oedd lluaws o brif ddynion eglwysig a gwladol y wlad hono yn bresenol, fel tystion; a Glyndwr a gadarnhaodd y cytundeb yn nghastell Llanbadarn, ar y 12fed o lonawr, 1406.

Dechreuodd Owen ryfelgyrch y flwyddyn hon gydag egni adnewyddol. Anrheithiodd diroedd ei elyniou, a chymerodd amryw gastellydd, yn mhlith pa rai yr oedd rhai Harlech ac Aberystwyth. Diarfogodd rai ohonynt, ac arfogodd eraill at ei wasanaeth ei hun. Yna trodd ei wyneb tua sir Drefaldwyn, a chyfarfu mintai Seisnig ag ef ar Fynydd Cwm Du. Ymosodasant arno, syrthiodd llawer o'i wyr, a gorfodwyd ef i encilio. Nid oes genym hanes iddo gael ei orchfygu cyn y tro hwn. Eithr yn fuan, efe a sychodd y gwarthrudd hwn ymaith; erlidiodd, goddiweddodd, a gorchfygodd hwynt, mewn lle a elwir Craig y Dorth, gerllaw Mynwy; ffoisant hwythau i gastell y dref hono. a da fod castell yn eu hymyl, onide ni ddiangasai