Tudalen:Cymru fu.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohonynt hysbysydd dynged y gweddill. Cadben y mintai Seisnig oedd larll Warwick, ac efe yn bersonol a gymerodd faner Owen yn mrwydr y Cwm Du. yr oedd iddo diroedd lawer yn sir Fynwy, ac ofn aurbeithiad y rhai hyny a barodd iddo gymeryd arfau yn erbyn ein cydwladwr.

Nid ymyrodd y brenin ag Owen o gwbl yn ystod y flwyddyn hon.

1405.

Ond er i Hotspur syrthio, parhaodd y cyngrair rhwng Owen a theulu Mortimer; a'r cyntaf yn rhestr digwyddiadau pwysig 1405 oedd cais rhamantus i ryddhau yr larll ieuauc March a'i frawd, neiodd Mortimer, o balas breiniol Windsor, gyda'r bwriad o'i wneud yn frenin. Yr oedd llawer un urddasol a phendefigaidd a chanddynt law yn yr ymgais. Bwriadent ei ddwyn i Gymru, a'i roddi tan nawdd Owen. Nid gwaith hawdd oedd cael yr Iarll ieuanc o'i garchar, gan fod gwarchlu yn ei wylio beunydd, a phob gofal trosto a allai trawsfeddianwr eiddigeddus ei ddyfeisio. Neillduwyd Constance, gweddw Arglwydd Spenser a chwaer Duc Yorc, i ddwyn eu rhyddhad oddiamgylch. Hi a geisiodd ffug-allweddau, a llwyddodd i ddwyn y ddau o'u carchar; ond pan yn prysuro gyda hwynt tua Chymru, goddiweddwyd hi, a dygwyd hi a'i hyspail yn ol. Y bendefiges a garcharwyd; a'r gôf anffodus a wnaeth yr allweddau a gyfarfyddodd â thynged greulon — torwyd ei ddwylaw ymaith ac yna torwyd ei ben.

Rhaid ini yn awr gymeryd ychydig seibiant, er mwyn edrych o'n cwmpas, rhag ymgolli ohonom yn nghanol rhuthr dibaid digwyddiadau pwysig bywyd ein harwr, fel teithiwr yn eistedd ganol dydd ar fin llwybr ei bererindod i adolygu ei hynt foreol. Ond pa bryd y mae canol dydd? Eywbryd rhwng sychiad y gwlith ac ymestyniad y cysgodau — ar ryw foment mor gyfrin fel mai prin y medr yr athronydd cywreiniaf ei nodi allan. Yr ydym yn canfod teyrn ein cyfundrefn yn y bore yn yfed y gwlith oddiar amrant y llysieuyn; ac yn yr hwyr, "yn marw yn ei waed," gan adael ei gyfoeth i oreuro godreu ei gyfeillion y cymylau, modd yr edrychont yn barchus yn ei angladd. Ond pa bryd y mae efe yn nghanol ei yrfa? Y mae yn lled anhawdd ateb; ac os anhawdd hysbysu canolddydd bywyd dyddiol rheolaidd yr haul, yna pa beth am ganol- ddyd bywyd rhamantus dyn! Nid oes genym ond dirnad; ac ŵrth edrych yn ol a blaen, yr ydym yn dyfod yn ymwybodol fod Owen yn nghanolddydd ei fywyd mil-