Tudalen:Cymru fu.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol o Rufain, o'r Dwyrain, o dir Llychlyn, o Ffrainc, o'r Iwerddon, a gwledydd eraill; er y dichon mai dyfais i "daflu'r cwn oddiar Iwybr y pryf " oedd hyn oll. Terfynir y cywydd gyda'r deisyfiad: —

Deigr Cadwaladr Fendigaid,
Dyred a dwg dir dy daid;
Dyga ran dy garenydd,
Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd.

Ond yr oedd o'r pwys mwyaf gan Ffrainc gadw y gwrthryfel Cymreig yn fyw, nid yn unig er mwyn cwblhau y cytundeb rhyngddynt âg Owen, ond hefyd er mwyn trallodi Harri, a thynu ei sylw oddiwrth eu darpariadau bygythiol hwy eu hunain. Danfonasant ddeuddeg mil o wyr dewisol mewn cant a deugain o longau, o Brest, tua diwedd Mehefin. Yr oedd gofal eu trawsgludiad ar Renaud de Trie, llyngesydd Ffrainc; a Hugueville oedd eu cadlywydd. Cawsent fordaith gysurus oni buasai am eu diofalwch yn darpar digon o ddwfr croyw, ac oherwydd hyny trengodd llawer o'u meirch. Dywedir fod y cadlywydd wedi gwerthu etifeddiaeth helaeth yn Agencourt er mwyn prynu gwisgoedd ac addurniadau costus, yr hyn a brawf frwdfrydedd rhai o'r Ffrancod beth bynag gyda'r rhyfelgyrch hwn. Wedi glanio yn Aberdaugleddyf, cychwynasant yn ddiymaros tua Chaerfyrddin, yr hwn le y pryd hwnw oedd yn meddiant y brenin; ac ar ol gwarchae am yspaid, gorfodwyd y gwarchlu i ymostwng. Ni ddarfu iddynt Ymosod ar Gastell Penfro, gan ei fod mor gadarn; gwarchaeasant Hwlffordd, eithr larll Arundel a'i hamddiffynai mor lew, fel y bu raid i Hugueville godi y gwarchae wedi colli llawer o'i wyr.

Yr oedd yn naturiol i'r Cymry, wrth weled cynorthwy a brwdfrydedd y Ffrancod ar eu rhan, adnewyddu eu nerth, i obaith ail ymgodi yn eu mynwesau, ac iddynt ymgodi eilwaith tan faner eu hen benaeth dewr Glyndwr. Cawn ein harwr eto ar y chwareufwrdd cyhoeddus, a chyda deng mil o wyr yn ymdeithio tua Dinbych y Pysgod (Tenby), lle y cyfarfyddodd y ddwy fyddin. Oddiyma, gan fyned yn unedig trwy Forganwg, teithiasant tua Worcester, gan losgi y Gororau ac anrheithio y wlad o'u hamgylch. Worcester y pryd hwnw oedd prif-ddinas y brenin yn ei randiroedd gorllewinol, ac oherwydd yr ymosodwyd arni chwaithach rhyw dref Seisnig arall. Gadawn hwynt yna, ac olrheiniwn hynt y brenin.

Yr oedd larll Northumberland eilwaith wedi codi mewn gwrthryfel, ac yn mhlith ei wyr yr oedd amryw Gymry a