Tudalen:Cymru fu.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chreigiau geirwon y mynyddau erchyll, diffrwyth, ac anial hyny. "O'r diwedd, gorfu i'r brenin droi yn ol, gan nas gallai gynal ei fyddin yn hwy mewn gwlad ag oedd wedi ei difrodi o bwrpas er mwyn newynu y Saeson; ac wrth iddo ymgilio cymerodd y Ffrancod ddeunaw o'i wageni ymborth. Pa fodd bynag, ar ol eu hencil o Worcester, y Ffrancod a gollasant eu holl frwdfrydedd, ac yn fuan dychwelasant oll i'w gwlad oddieithr rhyw bumtheg cant, a'r rhai hyny a'u dilynasant ar derfyn y gauaf.

Ond er i'r Ffrancod dynu eu cynorthwy yn ol, ni Iwfr- haodd yr hen genedl ddewr, ac yr oedd bywyd yn y gwrthryfel. Harri, mab y brenin, a warchaeodd Gastell Llanbedr, sir Aberteifi. Ceidwad y castell ar y pryd oedd un Rhys ab Gruffydd alias Rhys ab Llewellyn; a dygidy gwarchae yn mlaen mor boeth, nes y cytunodd Rhys i roddi y lle i fynu oni chyrhaeddai adgyfnerthion yn mhen ychydig ddyddiau. Dyma y cytundeb, — Fod iddo adael y lle mewn cyflwr da, na niweidiai y preswylfeydd, na feddianai unrhyw long a yrid i'r porthladd gau ddryghin, ac fod iddo ef a'i wyr gael rhyddid i ymadael. Yn mysg yr arfau rhyfel, nad oedd Rhys i'w cymeryd ymaith, ceir cyflegrau, y rhai a ddyfeisiwyd gan y Ffrancod tua chwe' blynedd ar hugain cyn hyny. Pa fodd bynag, daeth y cyfnod i ben, a daliwyd Rhys yn rhwymyn y cytundeb; cymerodd y sacrament er mwyn tyngu i'w ddidwylledd. Ond prin y gellir credu ei fod yn ddidwyll, gan iddo ganiatau i Owen ddyfod i'r Castell a'i droi ef allan tan yr esgus o'i fod yn euog o anffyddlondeb yn ymostwng heb ei ganiatad ef; a chadwodd Owen feddiant ar y Castell am hir amser.

1406.

Ond yr oedd ei achos wedi gwanychu i'r fath raddau nes y bu raid iddo gyfyngu ei weithrediadau i'r rhanau mynyddig o'r wlad, ac oddi yno rhuthrai yn sydyn i'r gwastad-diroedd, ac mor sydyn dychwelai drachefn, gan gymeryd gydag ef foddion cynaliaeth iddo ef a'i wyr; ac er i'r Ffrancod alw eu gwyr adref, eto parhânt i gynorthwyo Owen gyda lluniaeth a moddion rhyfel. Ond yr oedd y Deheudir o gwmwd i gwmwd yn graddol lithro o'i afael, trwy fod y tywysog Harri yn aros yno, ac yn gwibio trwy'r wlad, gau ddod yr iau Seisonig ar warrau'r trigolion trwy deg ac annheg. Er hyny cawn ein harwr yn arfer ei awdurdod fel yn mlynyddoedd anterth ei lwyddiant — yn caniatau maddeuant, dyddiedig o Gefn Llanfair, i Ioan ab