Tudalen:Cymru fu.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1407.

Ychydig ddigwyddiadau gwerth eu crybwyll a gymerasant le yn ystod y flwyddyn hon. Collodd Owen Gastell Llanbedr Pont Stephan a Chastell Harlech, ond adgymerodd y blaenaf drachefn. Er hyny, byrhau yr oedd ei fraich yn barhaus; a Bardolph a Northumberland, ei westeion, wrth weled ei achos yn gwanychu cymaint, a ymadawsant i'w gwlad, ac yno wrth geisio codi gwrthryfel eilwaith, collodd y ddau eu bywydau, ar Bramham Moor, yn sir Gaerefrog.

1408 a '09.


Yn y flwyddyn gyntaf, talwyd diolchgarwch gwresog i'r Tywysog Harri yn y Senedd am ei ymdrechion a'i lafur yn Nghymru. Yn nechreu yr ail, ymddangosai cyfansoddiad dirywiedig y gwrthryfel fel yn adnewyddu ei nerth. Rhuthrodd y Cymry ar y Cyffiniau, a'r rhanau hyny o Gymru ag oeddynt yn gogwyddo at y Saeson, ac anrheithiasant hwynt. Yr oedd Esgob Bangor gyda Glyndwr yn llywio yr ymosodiadau hyn. Tra yn ufuddhau gorchymyn eu penaeth yn sir Amwythig, carcharwyd dau o lewion y Cymry, sef Philip Scudamore a Rhys Ddu; ac ar ol eu caethgludo i Lundain, dienyddiwyd hwynt. Caton a ddywed, i Rhys gael ei lusgo ar lidiard trwy yr heolydd i'r 'dienyddle, Tyburn, ac iddo gyfarfod ag angau teyrnfradwr — ei bedwar aelod a ddanfonwyd i'w harddangos i bedair gwahanol ddinasoedd y deyrnas, a'i ben i'r un dyben a hongiwyd wrth bont Llundain. Cyfarfu eraill o swyddogion Glyndwr â thynged gyffelyb.

Dyna ymgais olaf ein harwr o unrhyw bwys. Lluaws ,o'i wyr a'i gadawsant, a thrwy hyny gorfodid ef i aros yn hollol ar yr amddiffynol. Bu mynyddoedd yr Eryri eto yn dra thirion wrtho; yn eu castellydd cedyrn a naturiol hwy yr oedd yn ddyogel, wedi i'w amddiffynfeydd o waith dwylaw dyn ymollwng a llithro o un i un fel bradwyr i wasanaeth ei elynion.

Yn y blynyddau 1410, '11, a '12, rhwng y mynyddau yr oedd y gwrthryfel yn byw, a Harri IV. a'i fab oeddynt wedi 'cael profion mor fynych o hinsawdd wrthryfelgar y manau hyny, nes y tybient mai doethach gadael llonydd i'r gwrth- ryfel farw ohono ei hun o'u mewn. Parhau yn garcharor yr oedd Dafydd Gam er holl ymgais y Saeson i'w ryddhau. O'r diwedd, tybiodd y brenin mai y ffordd oreu fyddai pwrcasu ei ryddhad mewn modd heddychol, a danfonodd