Tudalen:Cymru fu.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddau foneddwr o'r enw Syr John Tiplofte a Wm. Butiler i fargenio gyda Glyndwr am ei ollyngdod; ac wedi deng mlynedd o garchariad maith, cyfiawn, a chwerw, gollyngwyd "bradwr Machynlleth." yn rhydd. Arferai Owen gadw ei garcharorion rhyfel mewn adeilad cryf yn mhlwyf Llansantffraid-Glyndyfrdwy. Y mae gweddillion y lle yn aros hyd y dydd hwn; adwaenir ef wrth yr enw " Carchar Owen Glyndwr." {{canoli| 1413.

Yr 20fed o Fawrth, bu farw y brenin Harri IV, wedi iddo deyrnasu pedair ar ddeg o flynyddau mewn gwaed a galanas, gan adael yn gymunrodd i'w olynydd, ei fab Harri V, lawer o waith i gwblhau darostyngiad y gwrthryfel. Yr oedd hyd yn nod y manau oeddynt wedi eu darostwng yn peri trafferth mawr i'r brenin ieuanc; y bobl dywalltent eu Ilid ar y Saeson ddigwyddent breswylio yr un gymydogaeth a hwynt; dialent waed y lladdedigion yn y rhyfel, a chospent am rhyw niweidiau personol a, dderbyniasent; ac er fod eu cleddyfau yn eu gweiniau, yr oedd eu teimladau gelyniaethol at y Saeson yn parhau yn angerddol iawn. Yr oedd ganddynt yn eu cyfreithiau lŵ a elwid Asach, a llŵ rhyfedd ydoedd. Pan gyhuddid dyn o unrhywdrosedd, yr oedd yn angenrheidiol i dri chant o wyr gymeryd math o lŵ meichiafol cyn y gellid ei ryddhau, a'r llŵ hwn oedd yr Asach. Pan gyhuddid Sais yn Nghymru, nis gallaief gael haner y nifer gofynol i'w ddieuogi. Y brenin pan wybu am y gyfraith annheg hon, a'i dileodd, ac a ddeddfodd fod i bwy bynag a geisiai roddi yr Asach mewn gweithrediad, gael ei garcharu am ddwy flynedd a thalu dirwy drom. Mae yn rhaid cyfaddef, mai dyma y ddeddf unionaf o'r holl ddeddfau eithriadol a roddodd y Saeson ar y Cymry; ac adlewyrcha anrhydedd mawr ar ddoethineb y teyrn ieuauc a'i ffurfiodd.

Daliodd Glyndwr ei dir am ddwy flynedd yn mhellach, hyd 1415; a'i ofn ar y Saeson hyd yn nod yn y flwyddyn hono. Ymostyngodd y brenin i gynyg telerau heddwch iddo, a danfonodd ato Syr Gilbert Talbot gyda llawn allu i ffurfio cytundeb, a chaniatau maddeuant rhad iddo ef a'i ddilynwyr os byddai hyny yn angenrheidiol. Ond marwolaeth Glyndwr a ataliodd yr amcan y tro hwn. Dygwyd y cytundeb oddiamgylch drachefn, gyda Meredydd, mab i Glyndwr, ar y 24ain o Chwefror; ac felly, plygwyd y faner wrthryfelgar i fynu, a chyda hyny darfu y Cymry a rhyfela tros eu hiawnderau cynhenid a'u hannibyniaeth