Tudalen:Cymru fu.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cenedlaethol; y ddwy genedl a fuont elynion am yn agos i fil flynyddoedd a ysgydwasant ddwylaw, ac edrychasant yn myw llygaid eu gilydd; gwelodd y naill nad Rhys Gyrch oedd y Cymry oll, a'r llall nad Hengist oedd pob Sais. Dechreuwyd chwalu eu Clawdd Offa cymdeithasol; ac erbyn hyn, y mae yr hen elyniaeth wedi ymgolli bron yn llwyr mewn cyfeillgarwch.

Bu Owen farw yn yn nhŷ ei ferch yn Monnington, ar yr 20fed o Fedi, 1415, yn 61 oed; a'r hwn a heriodd y ddau Harri a'u galluoedd am bumtheg mlynedd, a wyrodd ei ben fel pabwyren o flaen brenin arall. Yn iaith Islwyn: —

Mae'n bryd it' orphwys, O! y mae yn bryd
I'r fron lonyddu wedi gwaedu c'yd;
I fys oer Angau gau dy aeliau blin,
Yn nhawel nos y bedd, ar falmaidd hûn.

Yn ol y farn gyffredin, claddwyd ef yn mynwent plwyf Monnington; ond nid oes cerfddelw o un math, na chofgolofn, na chymaint a chareg las, yn dynodi ei fedd. Y mae hyd yn nod sicrwydd am y man y claddwyd ef wedi ei gladdu.

Felly y bu fyw ac y bu farw un o'r dynion hynotaf ar lechres hanesyddiaeth ein gwlad. Yn yr hwn yr oedd holl deithi y nodweddiad Cymreig yn cydgyfarfod — yn gyfrwys, dewr, a medrus; yn nwydwyllt a hawdd ei ddigio, yn ystyfnig ac anhawdd ei gymodi. Nid oes enghraifft iddo erioed fradychu Cymro er mantais nac er elw; ond yr oedd ei gasineb at y Seison y fath fel yr ystynai hwynt yn rhy ysgymun i deilyngu breintiau cytundeb — edrychai arnynt fel pe buasent ellyllon wedi ymgnawdoli, Y syniad hwn a barai iddo weithiau ymddigrifo mewn creulonderau tuag atynt; ond yr oedd ganddo ef galon fawr agored bob amser i'w gydwladwyr. Ei enllibwyr a ddywedant mai dialgarwch at y brenin Seisnig, ac nid gwladgarwch, a barodd iddo gymeryd arfau ar y cyntaf; ond yr oedd boddio y naill a'r llall yn gorwedd yn yr un cyfeiriad, a gwrthryfelwr ystyfnig ydoedd pan yn ffoadur tlawd, pryd yr oedd yn anmhosibl iddo ddychymygu y gallai foddio ei ddialgarwch. Aberthodd ei etifeddiaeth fawr, ei gysur teuluaidd, a'i heddwch a'i ddyogelwch personol, ar allor ei wrthryfel; a rhaid fod rhyw deimlad mwy cysegredig na dialedd yn achosi yr aberth mawr hwn. Ysgytiodd lywodraeth Lloegr hyd i'w gwraidd; a bu yn ddrychiolaeth gerbron ei llygaid hyd o ni thynodd angeu ef oddiar ei ffordd; er na safodd unwaith frwydr gyda'r brif fyddin Seisnig. Ei gallineb cyfrwys oedd yn