Tudalen:Cymru fu.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychrynu ei elynion, a chafodd yr ystormydd a'r dryghin lawer o fai y callineb hwn gan y brenin Harri. Diau y seinir ei enw gan y Cymro gyda brwdfrydedd yn y tymhor gogoneddus hwnw pan byddo'r cleddyfau wedi eu troi yn sychau, a'r gwaywffyn yn bladuriau; canys yr oedd yn caru ei wlad, yn gymydog caredig, yn dad a phriod tyner a hynaws; yn ddewr, yn gall, yn ddysgedig; ac fel arwr rhyfelgar, buasai unrhyw genedl dan haul yn falch ohono.

MATH AB MATHONWY.

(Hen Fabinogi Cymreig.)

MATH AB MATHONWY oedd arglwydd ar Wynedd; a Phryderi ab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar hugain yn y Dehau, sef oedd y rhai hyny:— Saith cantref Dyfed, a saith cantref Morganwg, pedwar cantref Ceredigion a thri Ystrad Tywi.

Ac yn yr amser hwnw, Math ab Mathonwy ni byddai byw namyn tra fai ei ddeutroed yn mhlyg ar lin morwyn, onibyddai cynhwrf rhyfel yn ei atal; a'r forwyn hono oedd Goewin ferch Pebin, o Ddol Pebin yn Arfon, a hon ydoedd tecaf morwyn ei hoes hyd y gwyddent hwy yno.

A Math a breswyhai beunydd yn Nghaer Dathyl yn Arfon, ac ni allai fyned ei hun oddiamgylch ei gyfoeth, eithr Gilfuethwy ab Don ac Eneyd ab Don, ei neiaint feibion ei chwaer, a amgylchynent y wlad yn ei le ef.

A'r forwyn oedd gyda Math yn wastadol, ac yntau Gilfaethwy ab Don a ddodes ei fryd arni, ac a'i carodd hyd na wyddai pa beth i'w wneud am dani; ac oherwydd hyny, wele ei liw a'i wedd yn dadfeilio hyd nad oedd hawdd ei adnabod.

Ei frawd Gwydion un diwrnod a sylwodd yn graff arno, "Ha! was," ebai ef, " pa flinder sydd arnat?" Ebai yntau, " Paham? beth a weli di:-" "Gwelaf i ti golli'th bryd a'th liw; a pha flinder sydd arnat?" "Arglwydd frawd," ebai yntau, "yr hyn a'm blina i, ni leshâ im' ei draethu i un gwr." "Beth yw hyny, Eneyd?" ebai ef. Ebai yntau, " Ti a wyddost gyneddf Math ab Mathonwy, sef pa sisial bynag a fo rhwng dynion, os cyffwrdd y gwynt â'r sisial hwnw, Math a'i gwybydd." "Gwir;" ebai Gwydion, "taw, bellach, mi a wn dy flinder: caru Goewin yr ydwyt."