Tudalen:Cymru fu.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phan wybu efe fod ei frawd yn hysbys o'i feddwl, efe a roddodd yr ochenaid drymaf yn y byd. "Taw, Eneyd, â'th ocheneidio," ebai Gwydion, "nid fel yna y gorfyddir; mi a baraf, gan nad ellir heb hyny, gydymgynull Gwynedd a Phowys a Deheubarth i geisio y forwyn. Cymer di gysur, mi a'u paraf."

Yna y ddau a aethant at Math ab Mathonwy. " ArgIwydd," ebai Gwydion, " Mi a glywais ddyfod i'r Deheudir rhyw bryfed na ddaeth erioed eu bath i'r Ynys hon." "Beth y gelwir hwy?" " Hobau, arglwydd." " Pa ryw fath o anifeiliaid ydynt?" " Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion." "Bychain ydynt?" "le; ac y maent yn newid eu henwau. Weithian, moch y gelwir hwynt." "Eiddo pwy ydynt?" "Eiddo Pryderi ab Pwyll, yr hwn a'i cafodd o Annwn, gan Arawn brenin Annwn; ac y maent eto yn cadw yr enw o haner hwch, haner hob." "Ie," ebai yntau, " pa fodd y ceffir hwynt oddiarno?" " Mi a âf yn un o ddeg, yn rhith beirdd, i geisio y moch ganddo." "Efe a eill eich nacau," ebai Math. " Ni bydd fy ymdaith yn ofer, arglwydd, ni bydd i mi ddychwelyd heb y moch." "Yn llawen, ynte, dos rhagot," ebai Math.

Felly Gilfaethwy ac yntau a deg o wyr eraill a aethant, a chyrhaeddasant Geredigion, i'r fan a elwir yn awr Rhuddlan Teifi, lle yr oedd llys Pryderi. Yn rhith beirdd yr aethant a deryniwyd hwynt yn llawen. Ai' ddeheulaw Pryderi y dodwyd Gwydion y noson hono.

"Yn wir," ebai Pryderi, " da fyddai genym gael chwedl oddiwrth un o'r gwyr ieuainc acw." "Y mae yn arferiad genym ni arglwydd," ebai Gwydion, "y nos y delom at wr mawr, fod i'r pencerdd ddweud ei chwedl yn nghyntaf. Yn llawen, mi a adroddaf chwedl."A Gwydion oedd y chwedlenwr goreu y byd; a'r nos hono, dyddanu y llys a wnai âg ymddiddanau digrif a chwedlau, onid aeth yn dda gan bawb am dano, a dyddan gan Pryderi oedd ymddiddan ag ef.

Ar ddiwedd hyny, " Arglwydd," ebai Gwydion, " ai gwell y gwna rhywun arall fy neges na myfi fy hun?" "Nid gwell," ebai yntau, " tafod ffraeth sydd genyt ti." "Yna, arglwydd, dyma fy neges: Deisyf genyt yr anifeiliaid a anfonwyd i ti o Annwn." Ebai yntau, "Y peth hawsaf yn y byd fuasai hyny,onibai fod cyfamod rhyngwyf fi a'm gwlad am danynt; sef nad elont oddiwrthyf hyd oni hiliont eu dau gynifer yn y wlad." " Arglwydd," ebai yntau, "gallaf dy ryddhau oddiwrth y cyfamod yna, fel