Tudalen:Cymru fu.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn: — Na ddyro y moch i mi heno, ac na nacâ fi ohonynt, ac yforu mi a ddangosaf i ti gyfnewid am danynt."

A'r nos hono, Gwydion a'i gydymdeithion agymerasant gynghor yn eu llety. "Ha! -wyr," ebai ef, "ni chawn ni y'moch o'u gofyn," "Aie," ebynt hwythau, "pa fodd ynte y ceir hwynt?" " Mi a baraf eu cael," atebai Gwydion.

Yna efe a ddefnyddiodd ei gelfyddyd a'i hud, a pharodd i ddeuddeg emys [cadfarch; Saes. Charger] ymddangos; a deuddeg milgi bronwynion, a chanddynt ddeuddeg torch a deuddeg cynllyfan, nas gallasai y sawl a'u gwelent wybod nad aur pur oeddynt. Deuddeg cyfrwy oedd ar y meirch, ac ar y manau y dylasai haiarn fod yr oedd aur; a'r ffrwyni oeddynt yr un defnydd. Gyda'r cwn a'r meirch hyn y daeth Gwydion at Pryderi.

"Dydd da i ti, arglwydd," ebai ef; "Duw a'th lwyddo, â chroesawit'," ebai yntau. "Arglwydd," ebai Gwydion, "wele ryddhad iti oddiwrth y geiriau a ddy wedaist wrthyf neithiwr am y moch — nas rhoddit ac nas gwerthit. Ti a eill eu cyfnewid am a fo gwell. Rhoddaf it' y deuddeg meirch hyn,yn nghyda'u cyfrwyau a'u ffrwyni; a'r deuddeg milgi hyn fel eu gweli, gyda'u torchau a'u cynllyfanau; a'r deuddeg tarian euraidd a weli di draw." Y rhai hyn oll a rithiasai Gwydion o'r madrlch [bwyd llyffant; Saes./fungus]. " Mi a gymeraf gynghor," ebai Pryderi. Ac yn y cynghor efe a gafas roddi'r moch iGwyd- ion, a chymeryd y cŵn a'r meirch a'r tarianau yn eu lle.

Yna Gwydion a'i wyr a gymerasant eu cenad, ac a deithiasant ymaith gyda'r moch. " Ha! gyfeillion," ebai Gwydion, "rhaid i ni gerdded yn brysur, canys ni phery y lledrith ond hyd yr un amser yforu." Y nos hono, cyrhaeddasant hyd warthaf Ceredigion, ac arosasant mewn lle a elwdr o'r herwydd Mochdref. Tranoeth, cymerasant eu hynt trwy Melenydd, a'r nos tariasant mewn tref rhwng Ceri ac Arwystli, a elwir hefyd o'r achos hwnw Mochdref. Oddiyno aethant rhagddynt ac arosasant y noson nesaf mewn cwmwd yn Mhowys, a elwid o'r herwydd Mochnant. Yna cerddasant hyd gantref y Rhos, ac yno y buont y noson hono, mewn man a elwir eto Mochdref.

"Fy ngwyr," ebai Gwydion, " rhaid i ni brysur gyrchu gyda'r anifeiliaid hyn i gadarnfeydd Gwynedd, canys y mae llu yn ein hymlid." Felly y teithiasant yn mlaen hyd y dref uchaf yn Arllechwedd; yno y gwnaethant gren (sty) i'r moch, oherwydd hyny gelwid y lle Crenwyryon. Wedi gwneuthur y cren, cyrchasant i Gaer Dathyl, at