Tudalen:Cymru fu.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gywilydd mwy na meithrin ohonynt fi lanc cystal â hwn, bychan o beth fydd dy gywilydd." "Pa enw sydd ar y mab?" " Nid oes iddo enw hyd yn hyn." "Tyngaf 'dynged," ebai hi, "na chaffo enw hyd oni chaffo genyf fi." Ebai yntau, "Dygaf y nefoedd yn dyst, mai gwraig ddiriaid wyt ti; ond y mab a gaiff enw, er dy waethaf; yr hyn a'th flina di ydyw na'th elwir mwyach yn forwyn."Ar hyny, efe a ymadawodd yn ei lid, ac a gyrchoddi Gaer Dathyl, ac yno yr arosodd y noson hono.

Tranoeth. cyfododd a chymerth y mab gydag ef, a cherddodd ar hyd glan y môr rhwng hyny ag Aber Menai. Canfu yno hesg a môr-wiail, a gwnaeth fâd ohonynt; ac o'r brigau gwynion a'r hesg y gwnaeth lawer o gordawl (Cordovan or Turkish leather); ac a'u lliwiodd yn y fath fodd, nas gwelsai neb ledr tecach nag ydoedd. Yna efe a •wnaeth hwyl ar y bâd, a'r mab ac yntau a gyrchasant ynddo hyd borth Caer Arianrod. Yno efe a ddechreuodd lunio esgidiau a'u gwnio. Sylwyd ar y ddau o'r Gaer; a phan wybu Gwydion hyny, efe a gyfnewidiodd ei wedd a'i ffurf fel nad adnabyddid ef. "Pa wyr sydd yn y bâd acw?" ebai Arianrod. "Cryddion ydynt," ebynt hwy. "Ewch ac edrychwch pa ryw ledr sydd ganddynt, a pha ryw waith a wnant."

Felly, gwyr Arianrod a ddaethant at y ddau; a chawsant 'hwynt yn britho cordawl ac yn ei oreuro. A'r cenhadon a ddychwelasant gan fynegi hyn wrthi. Ebai hithau, "Mesurwch fy nhroed, ac erchwch i'r cryddion wneuthur esgidiau i mi." A Gwydion a wnaeth yr esgidiau, nid yn 'ol y mesur, ond yn fwy. Dygwyd hwy ati, ac yr oeddynt yn ormod. "Gormod ydynt y rhai hyn," ebai hi, "talaf iddo amdanynt, a gwnaed eto rai a fo llai na hwynt." Yna efe a wnaeth eraill, ac yr oeddynt yn rhy fychain, ac a'u danfonodd iddi; "dywedwch wrtho nad i mi y mae y rhai hyn."A dywedwyd hyny wrtho. Ebai yntau, " Yn wir ni wnaf esgidiau iddi oni chaf weled ei throed." Ebai hithau, " Mi a geddef hyd ato ef." A phan ddaeth hi at y llong, yr oedd efe yn lluniaw esgidiau, a'r mab yn gwniaw. "Dydd da it', arglwyddes," ebai ef. "Duw a roddo dda it',"ebai hithau; " y mae yn syn genyf nas gellit wneud esgidiau oddi wrth fesur." Ebai yntau, "Ni a medrwn, ond medraf yn awr."Ar hyny, wele ddryw yn sefyll ar ystlys y llong; a'r mab a anelodd ato, ac a'i saethodd yn ei goes, rhwng y gewyn a'r asgwrn. Yna hi a chwarddodd. "Diau," ebai hi, "gyda llaw gyffes (steady) y tarawodd y llew ef." Yna ebai Gwydion, " Na