Tudalen:Cymru fu.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiolched y nef it, eithr yn awr y bachgen a gafas enw, ac enw da ddigon ydyw hefyd. galwer ef o hyn allan, Llew Llaw Gyffes."

Ar hyny, diflanodd y gwaith, yr hesg, a'r môr-wiail; ac efe nis dilynodd ef yn mhellach. Oherwydd hyn y gelwir Gwydion, y trydydd Eurgrydd. Ebai hi. " Ni bydd dy Iwyddiant yn fwy wrth fy nrygu i." " Ni buom i ddrwg wrthyt ti." Yna efe a droes y mab i'w ffurf briodol ei hun. " Wel," ebai hi, "mi adyngaf dyngedi'r mab hwn na chaffo arfau byth onis gwisgwyf fi hwynt amdano." "Rhyngwyf fi a'r nefoedd," ebai Gwydion, "er gwaethaf dy ddireidi, efe a gaiff arfau."

Yna aethant tua Dinas Dinllef; ac yno meithrinwyd Llew Llaw Gyffes, onid allai farchogaeth pob march, ac onid ydoedd yn ei lawn ffurf o bryd, nerth, a maint. A chanfu Gwydion ei fod yn gwaethygu o eisiau meirch ac arfau, a galwodd ef ato, "Ha! was," ebai ef, " ni a awn ein dau ar neges yforu, a bydd dithau lawenach nag wyt."

"Hyny mi wnaf," ebai y mab.

Ac yn ieuenctyd y dydd dranoeth, cyfodasant, a chymerasant eu ffordd hyd yr arfordir i fynu tuag at Bryn Aryen. Ac ar ben uchaf Cefn Clydno, cymerasant feirch, a daethant at Gaer Arianrod. Yno newidiasant eu pryd, a myned i'r porth a wnaethant yn null dau was ieuainc, eithr fod pruddach pryd ar Gwydion nag ar y gwas. "Y porthor," ebai ef, "dos, a dywed fod yma feirdd o Forganwg."Y porthor a aeth. "Croesaw y nef iddynt; gollwng hwynt i mewn," ebai Arianrod.

Gyda dirfawr lawenydd y croesawyd hwynt; y neuadd a drefnwyd, a'r bwrdd a huliwyd. Wedi darfod bwyta, ymddiddan a wnaeth hi gyda Gwydion am chwedlau a hanesion; chwedlenwr da oedd Gwydion. A phan ddaeth adeg ymadael â'r gyfeddach, ystafell a gyweiriwyd i'r ddau ŵr dyeithr, ac i gysgu yr aethant.

Yn ngwyll y cyfddydd, Gwydion a gyfodes ac a alwodd am gymhorth ei hud; ac erbyn eu bod yn oleu dydd, yr oedd sain udgyrn a thrwst arfau yn diaspedain tros yr holl wlad. Ar hyny clywent guro ar ddrws eu hystafell, ac Arianrod yn erchi ei agoryd. A'r gwas a'i hagorodd, ac i mewn yr aeth hi a morwyn ieuanc gyda hi. "Hawyr da!" ebai hi, " pa le ddrwg yr ydym ni?" Ebai yntau, "ie, mi a glywaf udgym a llefain, beth debygi di o hyn?'"ebai hi, "Diau nis gallwn weled lliw y weilgi gan gynifer o longau sydd yn cyniwair ar hyd-ddo; ac y maent oll yn cyrchu i'r tir. A pha beth a wnawn ni?" Ebai Gwydiôn,