Tudalen:Cymru fu.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Arglwyddes, nid oes dim i'w wneuthur ond cau y gaer arnom, a'i hamddiffyn hyd y gallom." "Duw a dalo i chwi," ebai hi, " cewch yma ddigon o arfau."

Ar hyny, i nol yr arfau yr aeth hi; a dychwelodd yn ebrwydd a dwy forwyn gyda hi, ac arfau denwr ganddynt, "Arglwyddes," ebaiGwydion, " Gwisga di am y gwr hwn, a'r morwynion a wisgant amdanaf finau. Mi a glywaf dwrf gwyr yn dyfod." "Hyny a wnaf yn llawen;" a hi a wisgodd am dano yn gyfangwbl. " A ddarfu i ti wisgo y gwr ieuanc?" ebai ef. " Do," ebai hithau. "Yr wyf finau wedi darfod," ebai Gwydion; " diosgwn ein harfau weithian, canys ni raid ini wrthynt." "Paham?" ebai hithau, " wele y mae'r llynges oddiamgylch y tŷ." "Ha! wraig, nid oes yna lynges." "Och!" ebai hithau, "ba le yr oedd y swn mawr a glywid?" "Hud ydoedd, i dori dy fwriad di, ac i gael arfau i'th fab. Ac yn awr y mae ganddo arfau, ond heb achos diolch i ti amdanynt." "Rhyngwyf fi â Duw," ebai hithau, "gwr drwg ydwyt. Hawdd fuasai i lawer mab golli ei enaid oblegyd y trwst a wnaethost yn y Cantref hwn heddyw. Eithr mi a dyngaf dynged i'r mab hwn, na chaffo efe wraig byth o'r genedl y sydd ar y ddaear yr awr hon." "Diau," ebai yntau, "gwraig ddiriaid wyt ti erioed, ac ni ddylai neb dy gynorthwyo. Er hyny efe a gaiff wraig."

Yna, y ddau a ymadawsant â Chaer Arianrod, ac a ddaethant at Math ab Mathonwy, ac a achwynasant wrtho yn chwerw oherwydd Arianrod. Gwydion a'i hysbysodd hefyd pa fodd y cawsai arfau i'r gwr ieuanc. Ebai Math, "Wel, nyni, a tydi a minau, trwy hud a lledrith, a wnawn iddo wraig o flodeu. Bellach y mae ef yn wr llawn maint, a chyn deced ei bryd ag un mab a welais erioed." Yna, cymerasant flodeu y derw, a blodeu y danadl, a blodeu yr erweni (meadow-sweet); ac ohonynt ffurfiasant, trwy hud a lledrith, y forwyn decaf a theleidiaf a weles dyn erioed. Ac wrth ei bedyddio, galwasant hi Blodeuwedd.

Wedi iddynt briodi, ac i'r wledd fyned heibio, ebai Gwydion, "Nid hawdd i wr heb gyfoeth fyw yn anrhydeddus."Ebai Math, "Mi a roddaf i'w ddal i'r gwr ieuanc y cantref goreu feddaf." "Pa un yw hwnw, arglwydd?" ebai Gwydion. "Cantref Dunodig," ebai yntau. Gelwir y Cantref yn awr Eifionydd ac Ardudwy. A'r lle y cyfaneddodd efe ynddo oedd balas o'i eiddo a elwid Mur y Castell, yn ngwrthdir Ardudwy. Yno y cyfaneddodd ac y gwladychodd efe, a phawb a fuont foddlawn iddo ef ac i'w arglwyddiaeth.