Tudalen:Cymru fu.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac efe a aeth i Gaer Dathyl, i ymweled â Math ab Mathonwy. A'r diwrnod yr aeth efe i Gaer Dathyl, Blodeuwedd a rodiodd o'r llys. A hi a glywaisai corn; ac ar ol sain y corn, wele hydd blinedig yn myned heibio iddi, a chwn a helwyr o'i ol; ac ar ol y cwn a'r helwyr, bagad o wyr traed yn eu dilyn. " Danfonwch was," ebai hi " i ymofyn pwy ydynt y nifer acw." Y gwas a aeth, a gofynodd iddynt pwy oeddynt. "Gronw Pebyr ydyw hwn, y gwr sydd yn arglwydd ar Penllyn,"ebynt hwy. Hyny a ddywedodd y gwas wrthi hithau.

Gronw Pebyr a ymlidiodd yr hydd, a cherllaw yr afon Cynfael goddiweddodd a lladdodd ef. Ac wrth flingo yr hydd a bwydo ei gŵn, yno y bu hyd onid ymdaenodd y nos o'i ddeutu. A phan oedd y dydd yn adfeilio, a'r nos yn nesau, efe a ddaeth at borth llys Mur y Castell. Ebai Blodeuwedd, "Diau gogenir ni gan yr arglwydd hwn os gadawn iddo fyned ymaith mor hwyr heb ei wahodd i mewn." Ebynt hwythau, "Diau, arglwyddes, gweddus i ni ei wahodd."Yna aeth cenhadon ato i'w wahodd, a chymerth yntau ei wahodd yn llawen, ac aeth i mewn i'r llys. A Blodeuwedd a gyfarchodd well iddo ac a'i croesawodd. Ebai ef, "Arglwyddes, ad-daled y nefoedd it' dy garedigrwydd. "

Wedi iddo ymddiosg o'i wisg helwrol, myned i eistedd a wnaeth ef a Blodeuwedd. A hi a edrychodd arno, ac. o'r awr yr edrychodd hi arno, hi a lanwyd o'i gariad. Yntau a edrychodd arni hithau, a daeth yntau hefyd i'r un meddwl, ac nis gallai gelu ei serch rhagddi, eithr ei fynegi iddi a wnaeth. Hyn a barodd iddi lawenydd mawr; ac o barth y serch a'r cariad a roddasai'r naill ar y llall y bu eu hymddiddan y noson hono. A threuliasant yr hwyr hwnw yn ngwmni eu gilydd. Tyranoeth, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hithau, " Deisyfaf arnat nad elych oddiwrthyf heddyw." A'r nos hono ef a arosodd; a buont yn ymgynghori pa fodd y gallent fod beunydd yn nghyd. Ebai ef, "Nid oes gynghor ond un, sef fod i ti gael gwybod gan Llew Llaw Gyffes, a hyny yn rhith gofal amdano, trwy ba ddull y daw efe i'w angau." Tyranoeth drachefn, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hi, "Diau ni chynghoraf di i fyned oddiwrthyf heddyw." Ebai yntau, "Y mae perygl i arglwydd y llys ddychwelyd adref." "Yforu caniatâf iti fyned'," âtebai hithau.

A'r diwrnod nesaf, efe a gychwynodd, ac ni cheisiodd