Tudalen:Cymru fu.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tranoeth aethant i -weled y fan. " A â fy arglwydd i'r ymdrochle?" ebai hi. " Af yn llawen ebai yntau, Efe a aeth i'r ymdrochle, ac ymeneiniodd. " Arglwydd," ebai hi, "wele yr anifeiliaid y dywedaist wrthyf mai bychod oeddynt." "Pâr ddal un ohonynt a'i ddwyn yma," ebai "ef. Yna efe a gyfododd o'r ymdrochle, rhoddodd ei lodrau amdano, a dododd un troed ar ymyl y gerwyn a'r llall ar gefn y bwch.

Yna cododd Gronw i fynu o'i helwrfa, a phwysodd ar ben ei lin; ac efe a daflodd saeth wenwynig, yr hon a darawodd y llew yn ei ystlys nes y lluchiodd y paladr ymaith, eithr blaen y saeth a lynodd yn y clwyf. Yna y llew a roddodd waedd galon-rwygol, ac ehedodd i fynu yn ffurf eryr, ac a ddiflanodd yn fuan o'r golwg.

Mor fuan ag y diflanodd llew, Gronw a Blodeuwedd a aethant ynnghyd i'r llys y noson hono. tranoeth, Gronw a gymerth feddiant o Ardudwy; ac wedi iddo oresgyn y wlad, efe a wladychodd yno, onid oedd Penllyn ac Ardudwy yn ei arglwyddiaeth.

Dygwyd y newyddion hyd at Math ab Mathonwy; a thrymder a thristwch a ddaeth arno o'u herwydd; a thristach nag yntau ydoedd Gwydion. Ebai ef, "Argl- wydd, ni orphwysaf byth oni chaf hysbysrwydd am fy nai." "Duwa fo nerth it'," ebai Math. Yna Gwydion a gychwynodd, a cherddodd rhagddo hyd derfynau Gwynedd a Phowys. Wedi darfod hyny, efe a gerddodd Arfon, ac a ddaeth hyd at dŷ aillt (vassal) yn Maenor Penardd. Efe a ddisgynodd wrth y tŷ, ac a dariodd yno y noson hono. Gwr y tŷ a'i dylwyth a ddaethant i mewn, ac yn ddiweddaf oll y daeth y meichiad. Ebai gwr y tŷ wrth y meichiad, " Ha! was, a ddaeth dy hwch heno i mewn?" Ebai yntau, "Do; ac yr awrhon" y daeth hi at y moch." "Pa ryw gerdded sydd ar yr hwch " ebai Gwydion, "Bob bore pan agorer y cren yr â hi allan, ac ni cheir craff arni, ac ni wyddis pa ffordd yr â mwy na phe suddai i'r ddaear." "A wnei di gymwynas a mi" ebai Gwydion, "peidio agoryd dôr y cren oni byddwyf fi yno gyda thi." "Gwnaf yn llawen," ebai ef. I gysgu yr aethant y noson hono. A phau welodd y meichiad liw y dydd, efe a ddeffroes Gwydion. Safasant wrth y cren; " agorodd y meichiad y ddôr, a'r hwch a neidiodd allan ac a gerddodd ymaith yn gyflym. Gwydion a'i canlynes; a hi a groesodd afon, gan gyrchu i nant a elwir yn awr Nant y llew. Yno hi a ymataliodd, ac a ddechreuodd bori o tan goeden fawr. Gwydion a ddaeth o tan y pren, ac a edrychodd pa