Tudalen:Cymru fu.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth. oedd yr hwch yn fwyta, ac wele bwyta yr oedd gig pwdr crynrhonllyd. Ac efe a edrychodd i ben y pren, ac ar y brig gwelai eryr; a phan ymysgydwai yr eryr, disgynai oddiwrtho bryfaid a chig pwdr, a'r rhai hyn a ysai yr hwch. Ac efe a dybiodd mai'r llew oedd yr eryr, a chanodd iddo yr englyn hwn: —

Y dderwen dyf rhwng dwy lan,
Gorddu yw'r awyr a'r bryn;
Onid adwaenaf ef wrth ei archollion,
Mai llew yw hwn?

Ar hyny yr eryr a ddisgynodd hyd at ganol y pren, a Gwydion a ganodd iddo englyn arall: —

Y dderwen dyf mewn hardd faes,
Onis gwlych gwlaw, onis twym gwres?
Onid angherdd naw ugain tymhestl oddefes?
Rhwng ei changau mae Llew Llaw Gyffes.

Yna'r llew a ddisgynodd onid oedd ar y gainc isaf i'r pren, a thrachefn canodd Gwydion iddo yr englyn hwn: —

Y dderwen dyf tan oriwaered,
Teg a hardd ei llun,
Oni ddywedaf fi y gair?
Disgyn, llew, i'm harffed.

Yna yr eryr a ddisgynodd ar lin Gwydion. A Gwydion a'i tarawes gyda'i swynlath, nes y trawsffurfiwyd llew i" w ffurf ei hun. Ni chanfu neb erioed dremyn truenusach nag oedd arno — nid oedd ddim ond croen ac esgyrn.

Yna hwy a aethant hyd i Gaer Dathyl, a dygpwyd at llew feddygon da yn Ngwynedd, ac yr oedd efe yn holl iach cyn diwedd y flwyddyn.

" Arglwydd," ebai ef wrth Math ab Mathonwy, " y mae yn llawn bryd imi gael iawn gan yr hwn y dioddefais gymaint oddiar ei law." Ebai Math, " Diau nas gall efe ymgynal mewn meddiant o'th eiddo di." "Goreu bo'r cyntaf," ebai yntau, " y caffwyf fi iawn."

Yna cynullasant holl wyr Gwynedd, a chyrchasant i Ardudwy. Gwydion a gerddodd o'u blaen tua Mur y Castell. A phan glybu Blodeuwedd ei fod yn dyfod, hi a gymerth ei morwyniyn ac a ffodd i'r mynydd. Wedi croesi yr afon Cynfael, cyrchasant tuag at lys oedd ar y mynydd; a chan ofn, yr oeddynt yn cerdded drach eu cefnau, oni syrthiasant i lyn yn ddiarwybod; a boddwyd hwynt oll oddieithr Blodeuwedd. Hithau a oddiweddwyd gan Gwydion; ac efe a ddywedodd wrthi, " Ni laddaf dydi, eithr mi a wnaf it' y sydd waeth na hyny, sef dy drawsffurfio yn aderyn, am y cywilydd a ddygaist ar Llew Llaw Gyffes: ac ni feiddi byth ddangos dy wyneb hw