Tudalen:Cymru fu.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y CREADURIAID HIRHOEDLOG

.

[DYFYNIR y rhamant bychan, prydferth, a chywrain canlynol o Lyfr Thomas Willams o Drefriw. T. W. a flodeuai tua dau cant a haner o flynyddau yn ol. Yr oedd ei ddysgeidiaeth yn eang ac amryfal iawn. Heblaw amryw lyfrau ar hanesyddiaeth ac at wasanaeth ei genedl, ysgrifenodd Feddyg-lyfr mawr, yr hwn sydd yn bresenoi yn meddiant ein cyfail loan Lleifiad. Yr oedd, er hyny, yn Babydd selog, ac yn hysbys ar holl symudiadau Pabyddion yr oes hono. Dywed traddodiad mai efe a fu yn achlysur i ddadguddio Brad y Powdwr Gwn. Y pryd yma, yr oedd Syr John o Wydir yn aelod Seneddol, a Thomas Williams, yn gyfaill mawr iddo, a'i rhybuddiodd rhag myned i'r Senedd noson y Frad. Yna Syr John a ddadblygodd y gyfrinach gerbron ei gyd-seneddwyr; a thrwy ei ddiffuantrwydd a'i ddyngarwch canmoladwy, arbedodd y wlad hon rhag syrthio eilwaith i grafangau didosturi Pabyddiaeth, ac agorodd ei llygaid eilwaith i weled mai brad a melldith a dinystr ydyw anian ac amcan a bywyd y Babaeth.

Ymddangosodd rhywbeth tebyg i'r rhamant hwn yn Ystori Cilhwch ac Olwen, a diameu mai yno y cafodd Thomas Williams y rhan fwyaf o'i ddefnyddiau.]

ERYR GWERNABWY, wedi bod yn hir yn briod â'r Eryres, a bod iddo lawer o blant o honi, a'i marw hi, a bod o hono yntau yn hir yn weddw, a aeth i briodi gyda Dallhuan Cwmcawlyd. Ond rhag iddo blant o honi, a dirywio o'i rywogaeth, efe a aeth yn nghyntaf at Hynafiaid y Byd i ofyn ei hoedran hi. Ac yn nghyntaf, efe a aeth at Garw Rhedynfre, ac a'i cafodd yn gorwedd wrth hen gelffinen o dderwen, ac a ofynodd iddo oedran y Ddallhuan. Y Carw a'i hatebodd, " Mi a welais y dderwen hon yn fesen y sy yr awrhon ar lawr heb na dail na rhisgl arni; ac ni bu arni draul yn y byd, ond fy mod i yn ymrwbio ynddi bob dydd wrth godi, ac ni welais i erioed y Ddallhuan yn hŷn nac iuu nag ydyw heddyw; ond y mae un sydd yn hyn na myfi, a hwnw ydyw Gleisiad Glynllifon."

Aeth yr Eryr at y Gleisiad, a holodd yntau, ac efe a atebodd, "Mi a wn fy mod i yn flwydd oed am bob gem sydd ar fy nghroen, ac am bob gronyn sydd yn fy mol, ac ni welais i erioed mo'r Ddallhuan ond yr un modd! Ond