Tudalen:Cymru fu.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae un sydd hŷn na mi, a hwnw ydyw Mwyalchen Cilgwri."

Yr Eryr a aeth i edrych am y Fwyalchen, a chafodd ef yn eistedd ar gareg fechan, ac a roddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ebai y Fwyalchen, "A weli di y gareg yma sydd danaf? — nid ydyw fwy nag a fedr dyn gario yn eilaw, ac mi a'i gwelais yn Uwyth cant o ychain! ac ni bu arni draul erioed, ond fy ngwaith i yn sychu fy mhig arni bob nos, ac yn taro blaen fy adenydd ynddi wrth ymgodi yn y bore, ac nid adnabum i y Ddallhuan na hŷn nac iau nag ydyw hi heddyw. Ond y mae un hŷn na myfi, a hwnw ydyw llyffant Cors Fochno; ac oni wyr hwnw ei hoedran hi nis gwyr neb."

Yna aeth yr Eryr at y llyffant, a rhoddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ac efe a atebodd, "Ni fwyteais I ddim erioed ond a fwyteais o'r ddaear, ac ni fwyteais haner fy nigon o hono, ac a weli di y ddau fryn yna sydd wrth y gors? — mi a welais y fan yna yn dir gwastad, ac ni wnaeth dim hwynt cymaint ond a ddaeth allan o'm corph I, a bwyta cyn lleied; ac nid adnabum i erioed mo'r Ddallhuan ond yn hen wrach yn canu 'tw-hw-hw,' ac yn dychrynu plant gyda'i llais garw, fel y mae heddyw."

Felly Eryr Gwernabwy, a Charw Rhedynfre, a Mwyalchen Cilgwri, a Gleisiad Glyn Llifon, a llyffant Cors- fochno, a Dallhuan Cwmcawlyd, ydynt y rhai hynaf yn y byd oll.

HEN DDEFOD GLADDU GYMREIG

.

Yr oedd yn ddefod yn yr amser digrif a diniwed gynt mewn angladdau Cymreig, i bawb ddwyn yn ei law frigyn o Rôs Mari, a'i daflu i'r bedd gyda bod yr offeiriad yn terfynu darllen y gwasanaeth. Yr oedd hefyd ddefod gyffelyb yn ffynu yn mhlith y paganiaid; eithr taflent hwy frigyn o'r gypreswydden. Dewisent o'r pren hwn am na flagyrai ei frigau yn y ddaear, ond y gwywent yn ddiatreg; ac yr oeddynt felly yn arwyddlun o'u crediniaeth hwy, na byddai i'r marw adgyfodi. O'r ochr arall, y Cristionogion a daflent Rôs Mari i feddau eu hymadawedig, gan arddangos eu ffydd mewn ail-fywyd ac adgyfodiad.