Tudalen:Cymru fu.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwyd o Wynedd, y pregethwr nodedig. Pa fodd bynag, penderfynodd ei wraig dynu'r arferiad o fyned i'r pwlpud ceryg gefn y nos o'i gwr. Anfonodd ei brawd mewn cynfas wen i'w ddychrynu. Aeth y brawd, gan wneud ystumiau mor fwganllyd ag y medrai. "Holo! pwy wyt ti?" ebai Huw Llwyd wrth ei ganfod yn nesu ato, "Ai ysbryd wyt ti? Pa un ai ysbryd da ai ysbryd drwg wyt ti?" Ond ni feddai y ffug-ysbryd air i'w ateb. "Os ysbryd da wyt ti, ni wnei di ddim niwaid i mi er mwyn Morgan fy mab; ac os ysbryd drwg wyt ti, ni wnei dithau ddim niwaid i mi, 'does bosibl, a minau yn briod â dy chwaer di."Yr oedd y dyn yn y gynfas yn dechreu crynu erbyn hyn: "yr'wan amdani hi, 'r gwyn,"ebai H. Llwyd, "gwyliadi'r Du yna sy'n sefyll wrth dy sodlau di!" Dyna'r dyn "yn cymeryd y carnau" tua'r tŷ am ei fywyd, a Huw Llwyd yn bloeddio nerth ei ben, "Hwi, 'r Du! Hwi, 'r Gwyn," &c., nes oedd ei frawd-yn-nghyfraith bron a llewygu gan ofn; ac aeth i'w wely yn glaf, oherwydd cael ei hela gan ysbryd!

Diau fod dynion dysgedig a chyfrwys yr hen amseroedd yn hôni y gallent drin ysbrydion, er mwyn amddiffyn eu hunain rhag gwerin anwar, lygadrwth, a lladronllyd; ac nid yw y gellyddyd hono ond newydd ddiflanu o'r wlad, canys yr oedd rhai o ddysgedigion yr oes ddiweddaf yn cael y galr o roddi ysbrydion i lawr, dal lladron trwy ddewiniaeth, &c.

Y TYLWYTH TEG.

(Gan GLASYNYS.)

Dyma swp o Draddodiadau a glyw-wyd yn ngwahanol ranau o'r wlad yn nghylch y Tylwyth Teg. Nid wyf am geisio dweyd pa fath rai ydynt, o ba le y daethant, nac i ba le yr ânt: digon yw cymeryd y chwedlau fel ag y traethir hwy mewn llawer parth o'r Dywysogaeth. Dechreuaf hefo'r gyntaf a glywais erioed: —

I

Pan oedd pobl y Gors Goch un hwyrnos newydd fyned i'r gwely, dyma dwrf a chythrwfl anafus o gwmpas y tŷ. Methid yn lan loyw landeg a dirnad pa beth a allai fod