Tudalen:Cymru fu.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cadw nâd yr amser hono o'r nos. Yr oedd y gwr a'r wraig, y naill a'r llall wedi deffro, ac yn methu'n glir a gwybod pa beth a allai fod yno. Deffroes y plant hefyd. Ond ni fedrai neb yngan gair; yr oedd eu tafodau oll wedi glynu wrth daflod y genau. Ond o'r diwedd, medrodd y gwr ystwyrian, "Pwy sydd yna," a "Pha beth sydd arnoch eisiau?" Yna atebwyd ef o'r tu allan gan lais main, arianlef, "Eisio lle cynes i drwsio plant."

Agorwyd y drws, a daeth dwsin o ryw fodau bach i mewn, a dechreuasant chwilio am gunnog a dwfr, ac yno y buant am oriau rai yn ymolchi ac yn ymbincio. Ac ar lasiad y dydd, aethant ymaith, gan adael ar eu holau rodd dlos am y tiriondeb a dderbyniasant, Mynych ar ol hyn y cafodd teulu'r Gors Goch gwmni'r teulu hwn. Ond ryw dro, yr oedd yno yn digwydd bod rolyn o blentyn tlws ac iach. Yr oedd ef yn ei gryd. Daeth y Tylwyth Teg yno; ac oherwydd ei fod heb ei fedyddio, cymerasant eu hyfdra i newid dau blentyn. Cymerasant y plentyn braf i ffwrdd, a gadawsant ryw ledfegyn gwrthun yn ei le, ac ni wnai hwnw ond crio a nadu holl ddyddiau yr wythnos. Yr oedd y fam bron a thori ei chalon oblegyd yr anffawd, ac ofn arswydus dweyd wrth neb am y peth. Ond daeth pawb drwy'r fro i weled fod rhywbeth allan o'i le yn y Gors Goch; a phrofwyd hyny cyn hir, drwy i'r wraig farw o hiraeth ar ol ei phlentyn. Bu'r plant eraill farw o doriad calon ar ol eu mam, a gadawyd y gwr a'r gwiddon bach heb neb i'w cysuro. Ond dechreuwyd yn fuan tua'r adeg hon ail ddod i "drwsio plant," ar aelwyd y Gors Goch; a daeth y rhodd, yr hon gjnt oedd arian gleision, bellach yn aur pur dilin. A chyn pen ychydig o flynyddoedd, daeth y Gwiddon yn etifedd ar le mawr yn Ngogledd Cymru, a thyna paham y dywedai yr hen bobl, "Fe ddaw gwiddon yn fawr ond ei bedoli âg aur." Dyna chwedl y Gors Goch.

II.

Rywbryd, yr oedd William Ellis y Gilwern, yn pysgota ar lan llyn Cwm Silin, ar ddiwrnod niwlog a thywyll. Nid oedd wedi gweled un gwyneb byw bedyddiol er pan ddaeth o waelod Nant y Llef. Ond pan wrthi yn taflyd yr enwair gydag osgo ddenus, gwelai ar ei gyfer mewn llwyn o frwyn, swp anferth o ddynion, neu bethau ar lun dynion, tua throedfedd o daldra yn neidio ac yn dawnsio.

Bu'n edrych arnynt am oriau, ac ni chlywodd yn ei fywyd y fath ganu, meddai. Ond aeth William yn rhy