Tudalen:Cymru fu.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agos atynt, a thaflasant hwythau ryw fath o Iwch i'w lygaid; a thra bu ef yn sychu'r cyfryw, fe ddiangodd y teulu bach i rywle o'r golwg, ac nis gwelodd na siw na miw ohonynt byth wed'yn.

III.

Y mae chwedl go debyg am le o'r enw Llyn y Ffynonau. Yr oedd yno rafio a dawnsio, telynio a ffidlo enbydus, a gwas y Gelli Ffrydau a'i ddau gi yn eu canol yn neidio ac yn prancio mor sionc â neb. Buont wrthi hi felly am dridiau a theirnos, yn ddi-dor-derfyn; ac oni bai bod rhy w wr cyfarwydd yn byw heb fod yn neppell, aci hwnw gael gwybod pa sut yr oedd pethau yn myned yn mlaen, y mae'n ddiddadl y buasai i'r creadur gwirion ddawnsio'i hun i farwolaeth. Ond gwaredwyd ef y tro hwn.

IV.

Mi glywais fy mam, pan oeddwn yn lâs-hogyn, yn myned dros yr hanes a ganlyn lawer gwaith. Ydyw, y mae'r geiriau eglur, yr olwg syml, yr ystum prydferth, y llygaid hyny ag y mae'r ceufedd wedi eu mynnu iddo ei hun, yn fyw o flaen fy llygaid! Pan yn gwau ei hosan ar ddechreunos, o flaen tanllwyth braf o dân, mi fyddai yn ddifyr clywed barddoniaeth mewn iaith rydd — clywed adroddiad drymgais mam wrth ei hanwyliaid er mwyn eu dyddanu.

Yr oedd unwaith fachgen o fugail wedi myned i'r mynydd, Fel llawer diwrnod arall, cynt a chwedi hyn, yr oedd hi yn niwliog anarferol. Er ei fod ef yn 'dra chydnabyddus a phob rhan o'r fro, eto ryw fodd fe gollodd y ffordd, a cherdded y bu ar draws ac ar hyd am lawer o oriau meithion. O'r diwedd, daeth i bantle brwynog, a gwelai o'i flaen amryw gylchoedd modrwyog. Cofiodd mewn munud am y lle, a dechreuodd ofni yr hyn a fyddai gwaeth. yr oedd wedi clywed lawer canwaith am y triniaethau chwerwon yr aeth llawer bugail drwyddynt oher- wydd digwydd ohonynt dd'od ar draws dawnsfa neu gylchau y TYLWYTH TEG. Brysiodd ei oreu glas fyned oddiyno rhag ofn y sibedid yntau fel y rhelyw; ond er chwysu a thagu, yno yr oedd, ac yno y bu am hir amser. O'r diwedd, daeth i'w gyfarfod dorpwth o hen ddyn llygadlas, llygadlon, a gofynodd pa beth yr oedd yn ei wneud. Dywedodd yntau mai ceisio cael hyd i ben y ffordd i fyned adref yr oedd. "Ho!" ebai, yntau "tyr'd ar fy ôl i, a phaid ag yngan gair nes y peraf i ti."Felly