Tudalen:Cymru fu.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y fu hi. Aeth ar ei ol ef o lech i Iwyn nes y daethant at faen hirgrwn; a thyma yr hen dorpwth yn ei godi, ar ol rhoi tri chnoc hefo'i ffon yn ei ganol, Yr oedd yno Iwybr cul, a grisiau draw ac yma i'w gweled. Yr oedd yno hefyd oeleuni llwyd-las-wyn i'w ganfod yn tarddu o'r ceryg. "Dilyn fi yn ddiofn,"ebai'r torpwth, "ni wneir dim niwaid i ti." Yn mlaen yr aeth y bachgen druan, yn wysg ei drwyn, fel ci i'w grogi. Ond toc, dyma wlad dêg, goediog, ffrwythlawn, yn ymledu o'u blaen; a phalasau trefnus yn ei britho, a phob mawredd ymddangosiadol yn rhith-wenu yn eu gwyneb. Yr oedd yr afonydd yn loyw- droellog, y ffrydiau yn sidellog, y bryniau yn lasdwf irwelltog, a'r mynyddoedd yn llyfn-gnuafog. Erbyn cyrhaedd palas y torpwth, yr oedd wedi pensyfrdanu gan mor beraidd-oslefol y pynciai yr adar yn y coedlwyni. Yno drachefn yr oedd aur yn serenu'r llygaid, ac arian yn gwawlio'r golygon. Yr oedd yno bob offer cerdd, a phob rhyw erfyn chwareu. Ond ni welai neb yn yr holl fan. Pan aeth i fwyta, yr oedd y pethau oedd ar y bwrdd yn do'd yno eu hunain, ac yn diflanu hefyd pan ddarfyddid a hwy. Methai'n lân loyw a dirnad hyn. Yr oedd yn clywed pobl yn siarad hefo'u gilydd o'i gwmpas, ac yn ei fyw nis gwelai neb ond ei hen gydymaith. Ebai'r torpwth wrtho o'r diwedd, "Gelli bellach siarad faint y fyd fyw a fynot." Ond pan geisiodd ysgwyd ei dafod, nis symudai hwnw mwy na thalp o rew. Dychrynodd yn aruthir o'r plegyd. Ar hyn, dyma globen o hen wreigan raenus a thirion yr olwg arni yn d'od atynt, ac yn cil-wenu ar y bugail. Yna dyma dair o ferched hardd nodedig yn dilyn eu mam. Syllent hwythau hefyd yn rhyw haner chwareus arno. O'r diwedd, dechreuasant siarad hefog ef. Ond ni wnai'r tafod ysgwyd. Ond ar hyn, daeth un o'r lodesi ato, a chan chwareu hefo'i lywethau melyn-grych, tarawodd glamp o gusan ar ei wefusau fllamgoch. Llaciodd hyn y rhwymyn oedd yn dal y tafod, a dechreuodd arni siarad yn rhydd a doniol. Yno yr oedd, o dan swyn y cusan hwnw, mewn hawddfyd hyfrydlawn. A bu yno am un dydd a blwyddyn heb wybod iddo aros mwy na diwrnod yn eu mysg. Yr oedd ef wedi myned i wlad lle nad oedd dim cyfrif amser. Ond ryw bryd, fe gododd tipyn o hiraeth arno y buasai yn dda ganddo gael myned i roi tro i'w hen gynefin, a gofynodd i'r torpwth a gai ef fyned. Diolchodd hefyd yn dra moesgar am y tiriondeb a gafodd. "Aros ronyn eto, a chei fyned am swrn," ebai yntau; ac felly fu hi. Arosodd, ac yr oedd Olwen, oblegyd dyna oedd