Tudalen:Cymru fu.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw y fun a'i cusanodd, yr oedd hono yn anfoddlawn iawn iddo ymadael. Byddai yn edrych yn drwm bob tro y soniai am fyned ymaith. Ac yr oedd yntau hefyd yn teimlo rhyw ias oer wrth feddwl ymadael â hi.

Ond ar yr amod o dd'od yn ol câdd fyned a digon o aur ac arian, a thlysau a gemau, ganddo. Pan ddaeth adref, ni wyddai neb pwy oedd. Yr oeddis wedi meddwl fod bugail arall wedi ei ladd am annos ei ddefaid; a bu raid i hwnw gymeryd y goes i'r Amerig draw, onide crogesid ef rhag blaen. Ond dyma Einion Las adref, a phawb yn synu. Yn enwedig, wrth wel'd bugail wedi d'od i edrych fel arlwydd cyfoeth. Yr oedd ei foes, ei wisg, ei iaith, a'i eiddo, yn cyfateb i'r dim i'w wneud ef yn ŵr boneddig. Aeth yn ol drachefn rhyw nos lau cynta'r lleuad, mor ddiswta, yr eil-dro ag yr aeth y waith gyntaf, ac ni wyddai neb pa sut na pha fodd. Yr oedd llawenydd mawr yn y wlad isod pan ddychwelodd Einion yno, ac nid neb a lonodd yn fwy nag Olwen ei anwylyd. Yr oedd y ddau yn wyllt wibwrn am briodi. Ond yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ddystaw, oblegyd nid oedd dim yn gasach yn ngolwg teulu'r wlad isod na thwrf a sôn. Ac felly, mewn dull haner dirgel, fe unwyd y ddau. Yr oedd ar Einion flys garw myned eto i roi tro hefo'r wraig, na bo ond ei son, adref i fysg ei deulu. Ac ar ol hir ymbil hefo yr hen fachgen, cawsant gychwyn ar gefn dau ferlyn gwyn; yn wir yr oeddynt yn debycach i eira na dim arall o ran lliw. Felly fe ddaeth ef a'i briod i'w hen gynefin, a barn pawb oedd, mai y lânaf a welodd yr haul yn un man oedd gwraig Einion.

Pan adref, ganwyd mab iddynt, a galwyd ei enw yn Daliesin. Yr oedd Einion erbyn hyn yn fawr ei alwad, a'i wraig yn derbyn pob parch teilwng. Yr oedd ei golud yn anferth, a buan y daeth ganddynt etifeddiaeth eang. Ond yn lled-agos i hyn, daeth pobl iddechreu holi am achau gwraig Einion. Nid oedd y wlad yn barnu mai peth iawn oedd bod heb achau. Holwyd Einion, ond ni roddai ef un ateb boddhaus. A phenderfynodd y bobl mai un o deulu'r TYLWYTH TEG oedd. "le'n wir," ebai Einion, " nid oes dadl i fod nad un o Dylwyth Teg iawn ydyw; oblegyd y mae iddi ddwy chwaer eto mor lân â hithau; a phe gwelsech hwynt yn nghyd, buasech yn cydnabod fod yr enw yn un iawn." Â. thyma paham y galwyd y teulu hynod sydd yn nhir Hud a lledrith yn DYLWYTH TEG.