Tudalen:Cymru fu.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gloch. Yna y brenin a aeth i mewn ei hunan, er mwyn cael ymddyddan â'i fam a'i dad; can's ef a'i hadwaenai hwynt, ac nid adwaenent hwy ddim ohono ef. A phan aeth ef i mewn, nid oedd neb yn y neuadd namyn ei dad ef a'i fam yn eistedd wrth y tân. Yntau a alwodd am ddwr i ymolchi; a'r hen farchog a godes i fynu, ac a gymerth fasn yn ei law, ar fedr dal dwr i'r brenin, eithr nis mynodd ef; a'i fam a geisiodd ddala tywel iddo, ac nis mynodd ef. Yna, ebai ef yn llawen, tan chwerthin oddifewn, 'llyma ddyfod yn wir a ddywedais i ar y môr, pan oedd y brain yn gregan ar gwr yr ysgraff. Ac na fydded waeth genych chwi er hyny, Duw a'i troes er lles i mi; ac o hyn allan, trigwch gyda mi, i gael bara, a chig, a chwrw, a gwin, a brethyn marchnad, a sidan, a melfed, a groeso tra fyddoch chwi byw. "

"Ac felly, fy arglwydd dad, mor ufudd ag y bu hwnw i'w dad, fyddaf finau i chwithau. Ac atolwg, fy arglwydd dad, na chredwch i mi geisio treisio yr ymherodres, ond iddi ymgynyg imi yr hyn nid oedd deilwng; a phan ballais i o hyny, y tynodd hi wallt ei phen, a thynu gwaed o'i hwyneb â'i hewinedd, a'm hathrodi i wrthyt ti, a cheisio genyt fy rho'i i angau, yr hyn a ddylai hi ei gael: canys y mae gyda hi ddau ŵr mewn dillad gwragedd yn llawforwynion iddi, wedi dyfod gyda hi o'i gwlad, y rhai sydd yn ei hystafell hi yn wastad; ac oni byddant hwy felly, crogwch fi"

Ac yr oeddynt megys y dywedodd ef. Ac yna barnwyd yr ymherodres i'w llosgi. A'r mab wedi hyn y a drigodd gyda'i dad mewn anrhydedd ac urddas, tra fu byw.

Ac felly y terfyna Ystori Saith Doethion Rhufain.


SON AM YSPRYDION.

(Gan Glasynys.)

NID wyf am haeru fod bwganod yn ymrithio i neb. Yr unig bethau ag y mae arnaf flys rhedeg drostynt, ydyw rhyw swp o chwedlau digrif a glywais draw ac yma. Coelied a goelio, a pheidied a beidio, ni bydd hyny yn ddim ar wyneb y ddaear gron genyf fi. A pheth arall hefyd, nid ydyw yn beth o angenrhaid fy mod i, mwy