Tudalen:Cymru fu.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na'r hen bobl a glywais yn adrodd y pethau hyn, yn eu dilys gredu. Nofelau bychain, efallai, ydynt; ac er na feddant ddilysdeb gwir hanesyddol, coeliaf fod ynddynt er hyny addysg a gwir moesol. Yn awr, i ddechreu, hefog un o Fwganod Mawddwy, sef


BWGAN Y BRYN.

Lle rhyfedd odiaeth ydyw hen gwm cordeddog Mawddwy. Y mae ei droadau cornelog a'i lethrau glaswelltog yn addurno'r fro yn dra phrydferth. Ar waelod y cwm, y mae'r hen afon Dyfi fel llinyn arian yn di-sŵn lithro yn nghanol y ceinder a'r tlysineb penaf. Yn nghwr y Pennant, wrth sawdl Bwlch y Groes, ac yn nghanol ysgethrin ddaneddog yr Aran, y mae palas a elwir y Bryn. Nid ydyw o ddim pwys ar y ddaear pwy fu yno yn byw, na pha bryd y bu'r olaf o'r teulu farw; pwy oedd ei briod, nac o ba âch y daethant — nid ydyw erbyn hyn o ddim pwys i neb, am a wn i; ond y mae'r hyn a welodd amryw o bobl meddan nhw, yn deilwng o sylw. Yn y cyfnos du, pan fyddai hen bobl y Cwm yn eu hûn a'u heddwch, fe welodd rhai ag oeddynt yn digwydd bod allan ar yr adeg hono o'r nos, bethau pur wrthun; ac nid neb felly yn fwy na llanc ieuanc o'r enw Deio.

Bachgen tirion a charedig oedd Deio, ac nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef; ond rywfodd neu gilydd, nid oedd yn wiw iddo fyned allan ar ol deg o'r gloch, oblegyd yr oedd rhywbeth ar gefn ceffyl gwyn yn ymddangos iddo yn wastadol. Un nos dydd Nadolig pan oedd yn myned i ddanfon adref eneth ieuanc (ei wraig er's blynyddoedd bellach), pan ar Riw'r Offeiriad, dyma'r Ceffyl Gwyn yn dod nerth y carnau ar ei ol; a phan ddaeth gyferbyn â hwynt, arafodd, a cherddodd yn amyneddgar ochr yn ochr hefo'r ddau am hir ffordd. O'r diwedd, troisant hwy i dŷ cyfaill, a da oedd gan eu henaid gael lle i ochel. Yno yr arosasant am oriau yn llawn braw. O'r diwedd, penderfynodd Deio gychwyn adref, a gadael ei gydymaith ar ei ol tan y bore. Nid oedd efe wedi gadael y tŷ neppell, nad oedd yr hen law ar gefn y Ceffyl Gwyn wedi cael trywydd arno drachefn; a thyma'r ddau yn cyd-drafaelio'n law- law. Bu tipyn o ymgom rhyngddynt, a gorchymynwyd i Deio gyfarfod y gŵr march gerllaw y Bryn ar noson bennodol, ac ar adeg a nodwyd. Ac ar ol hyny, ymaith â'r ceffyl a'r marchog drwy'r coed, gfel corwynt. " Y noson apwyntiedig a ddaeth, ac nis gallaf wneud yn well na dyfynu geiriau ei fam er dangos teimladau trwmbluog y