Tudalen:Cymru fu.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bachgen a'i rieni. "Yr oedd Deio, druan," ebai, "yn crynu pan yn cychwyn o'r tŷ fel dail yr aethnen. Mi eis hefog ef mor bell â'r llidiard sy'n myned i'r ffrynt; ac yna fe aeth y creadur gwirion ei hun i lawr tan grynu i'r berllan— a chlyw-wn i ryw siffrwd rhyfedd. Ofnais unwaith fod rhywbeth wedi lladd fy machgen gwirion, oblegyd yr oedd yno'r gruddfaniadau mwyaf torcalouns a glywais erioed. Ond ar ol hir ddisgwyl, mi welwn Deio yn dod yn ol ataf yn araf deg; a'r fynyd y daeth o fewn cyrhaedd, syrthiodd i fy mreichiau yn farw gelain. Bu arnaf fyd chwith yn ceisio ei lusgo adref, ac ni fedrai yngan gair o'i ben am hir amseroedd." Dyna chwedl y fam. Dywed Deio ei hun i'r hen Geffyl Gwyn dd'od yno, a dangos iddo ryw ddirgelwch, ac nas gall ef byth adrodd y cyfryw wrth ungwr byw bedyddiol. Ond nid Deio ydyw yr unig un a welodd y Geffyl Gwyn yn ymyl y Bryn; na choelia'i fawr. Gwelodd Jack y Cwm ef unwaith neu ddwy gefn trymwedd y nos, a dywed eraill iddynt yn aml weled rhywbeth. Yr Hen Gutto, Ty-nant, coffa da am dano, a fu lawer gwaith yn ysgoi'r fan yn mhell bell, er mwyn peidio rho'i siawns i'r peth cas dd'od ar ei draws. Mynych y safai'r ddrychiolaeth ar y grisiau; bryd arall, ysgydwai y tŷ hyd ei sylfeini; ac yr oedd yno un offeryn i gludo glo ar y tân a fyddai yn cael ei herlyd yn ddiwêdd. Byddai hefyd mewn un ystafell yn fynychach na'r un arall; paham, nis gwn — oddieithr fod rheswm da yn peri, sef rhyw erchyllwaith ddieflig. Nid oes dadl na bu'r Bryn yn nythle pob dyhirwaith a fedrai'r Un Drwg ddyfeisio, ac ni d rhyfedd ynte fod y Cryf Arfog yn gwneud ei oreu i gadw ei neuadd; ond dros ba hyd y gwna, nis gwn. Y mae Deio, fodd bynag, wedi cael llonydd ganddo er's tro bellach, ac yn myned heibio'r lle yn lled ddiarswyd; ac nid oes neb yn awr yn cael ei flino yn y lle a'r fan. A gobeithio y ceir llonyddwch o hyn allan tra fo'r Ddyfi lân yn "llyfndeg redeg yn rhydd."

BWGAN LLANEGRYN.

Ond pa beth oedd rhyw erthyl o fwgan fel yna i'w gyffelybu i'r un y bu Williams y Ficer mewn ymdrech mor felltigedig ag ef? Yrwan am dani hi. Rhyw dri ugain a deg, mwy neu lai, o flynyddoedd yn ol, cythryblid pobl plwyf Llanegryn, Meirion, gan ryw ysgerbwd anweledig mewn modd hyn od o annhrugarog. Yr oedd yr hen fachgen dyddan, duwiol, a da, Lewis Williams, o Lanfachraith, yn byw ac yn bod yn yr ardal ar y pryd