Tudalen:Cymru fu.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy ffodus na Lewis William, oblegyd medrodd ef -wastadhau'r cythrwfl, ac ni bu mwyach ddim o'r twrf câs pensyfrdanol yn blino'r bobl a gyfaneddent y lle; a thyna ddiwedd BWGAN LLANEGRYN, yn ol a glywais i.

BWGAN SALI MINFFORDD,

A

CHAMPAU BESSI RISIART

.

Byddai f' Fewyrth Tomos, Esgair Adda (un o hen deulu Mawddwy, heddwch i'w enaid), yn ddefosiynol iawn pan yn adrodd am ystumiau câs y ddwy globen anhywaith hyn, Byddai drychiolaeth yn dilyn Bessi yn wastad, weithian yn weledig, ac weithiau heb fod felly. Unwaith, pan oedd yn ymyl Esgair Adda yn gofyn cymhorth y plwyf (oblegyd tad f' Ewyrth Tomos oedd y Warden), dywedai gyda llŵ rheglyd, os na chai yr hyn a geisiai y byddai yn edifar i'r hen ŵr cyn pen ychydig o fynydau. Dywedodd yntau yn bur ddifater wrthi, "Amser a ddengys, Bessi" Ond cyn pen tri mynyd yr oedd y defaid yn bowlio dros y llechweddau yn ystrim-ystram-ystrellach, ac yn tori eu gyddfau wrth y dwsingau; a da i galon yr hen fachgen oedd gwneud i fynu'r heddwch hefo'r greadures ddieflig. Ond daeth ei hamser i ben (oblegyd coelid ei bod wedi gwerthu ei hun i'r diafol), a rhyw ddiwrnod fe'i cipiwyd i ffwrdd gan rywbeth, ac ymaith â hi dros lechweddi Cowrach fel "rhedynen o flaen corwynt;" a'r olwg gyntaf a gaed arni wedyn oedd yn y gored gerllaw Mallwyd wedi marw yn gelain geg-oer; a dywedir mai golwg pur fawr oedd ar ei chorpws gwrthun. A thyna ddiwedd Bessi, er ei holl ddewiniaeth.

Ond os un gâs oedd Bessi, canwaith mwy cythreulig Sali. Ni chai neb lonydd yn nghwsg nac yn effro gan yr ellylles felynddu hon. Pan oedd yn llafnes o eneth, nid oedd neb yn y cwm a hoffid yn fwy; ond ryw fodd fe aeth yn rhy lac a gwantan hefo ryw drychfil o ŵr mawr oedd yn byw heb fod neppell o'r fan. A chollodd Sali ei choron, ac er y pryd hwnw gwell filwaith fuasai iddi ymgrogi na bod yn gorfod byw fel yr oedd hi. Yr oes i dir melltigedig dewinio, ac nid oedd un peth dan haul y ffurfafen nas gwnai os medrai. Ni cheisiai wneud dim ond poeni a chythryblu pawb. Tarawai laeth ambell i fan fel na fedrent ei gorddi, gwnaent a wnelent: rho'ai hud ar ddefaid le arall, ac ni fedrai cant o fugeiliaid eu cadw ar eu cynefin: gwnai lygad-croes ar fuches fan draw, a myswynogydd fyddai'r holl dda blithion am dair blynedd o leiaf, ac odid fawr nad erthylu fyddai diwedd y trybini