Tudalen:Cymru fu.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIODAS YN NANT GWRTHEYRN.

Os bydd gan rywun eisiau gweled natur yn ei gwylltineb aruthr ac anngboeth, safed ar ben Craig y Llam — clogwyn anferth o fynyddoedd Eryri sydd yn gwallgof wthio ei drwyn i fôr lwerddon. Safed a'i wyneb tua'r môr, ac o'r tu cefn iddo bydd moelydd uchel yr Eifl, cribau y rhai a amgylchynir yn fynych gan gymylau; o'i flaen, yr eigion eang, yn ymgollli yn y gorwel las; odditano, y Graig erchyll amryw ugeiniau o latheni o ddyfnder, ac astellau culion ar hyd-ddi lle y bydd adar y môr yn eu hamser yn dodwy a deor, a'r lle y collodd aml un ei fywyd wrth ddringo i yspeibo y pethau gwirion o'u trysorau cywrain. Os gall efe daflu cipdrem tros ymyl y geulan ofnadwy hon, neu wrando'n ddiarswyd am bum mynyd ar ruad y tônau yn yr ogofau mawrion a gafniwyd ganddynt o dan y graig, y mae ganddo ewynau gwerth eiddigeddu wrthynt. Ar un llaw iddo bydd nentydd a moelydd, moelydd a nentydd, diddiweddd sir ramantus Caernarfon; ar y llall, glyn dwfn, fel pe buasai'r elfenau tanddaearol yn rhyw gyfnod bore wedid adwreiddio llosgfynydd o'r fan, a'i hyrddio wraidd ac oll i ganol yr eigion, gan adael NNT GWRTHEYRN yn engraifft o nerth y llaw Hollalluog oedd yn eu llywio.

Saif y Nant bon tua haner y ö'rodd rhwng Clynog Fawr a Nefyn. Amgylchynir dwy ochr ohoni gan elltydd caregog a serth, lle ni thyf dim ond grug egwein, eithin haner crispiedig, a chorachod o goed cyll, gwreiddiau y rhai a afaelant am eu bywyd yn y graig odditanynt rhag iddynt syrthio i lawr y goriwaered; ac ar y ddwy ochr arall gan Graig y Llam, a'r môr — yr hwn sydd yn golchi ei godreu ac yn yfed ei chornant fechan. Yna, medda'r hanes, yr ymneillduodd yr ben deyrn Prydeinig Gwrtheyrn rhag ofn ei ddeilaid, wedi iddo'n fradwrus ollwng eillion i feddiant ar lywodraeth Ynys Prydain; ac er hyny allan, ar ei enw ef y cyfenwir y Nant; ac yma y dybenwyd ei fywyd anfad gan fellten, yr hon a darawodd ei gastell, a syrthiodd yntau ei hun yn yr adfeilion. Dy wed Nennius "Iddo trwy ei fywyd afradlon dynu gwg y mynachod, ac iddynt hwythau benderfynu na chai farw fel y cyffredin o blant dynion; ac o ganlyniad, parasant iddo drengu tan arwyddion amlwg o ddigofaint y Nefoedd." Ar ganol y Nant, yn agos i'r môr, y mae bryn bychan naturiol, ond ei ben a'i amgylchedd yn dwyn ol llaw celfyddyd; ac yma, medd traddodiad, y safai hen amddiffynfa. Yr oedd