Tudalen:Cymru fu.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma hefyd domen o geryg wedi ei gorchuddio gan dywyrch a adwaenid o oes i oes wrth yr enw Bedd Gwrtheyrn; a phobl chwilfrydus yr ardal, tua dechreu y gannf ddiweddaf, a diriasant i'r domen hon, a daethant o hyd i arch yn cynwys esgyrn dyn tâl iawn, a phenderfynent eu bod yn perthyn i neb llai na'r hen frenin. Parodd hyn i lawer gredu fod gwir yn y traddodiad; a daeth lluaws mawr o ddyeithriaid i weled y Bedd, ac i syllu âr urdduniant y llanerch ddiddrain ac annghysbell hon.

Ond mor neillduedig y fan, yr oedd dau o deuluoedd yn preswylio yno, mewn dau fwthyn a safent gyferbyn a'u gilydd, un o bob tu i'r cornant— bythynod gwyngalchog oeddynt, tô gwellt, a gwedd oedranus arnynt oddiallan; gyda gerddi bychain o'u blaen lle byddai'r gwenyn diwyd yn yr haf yn casglu eu lluniaeth erbyn y gauaf, o flodeu'r pytatws. y briallu, a'r crinllys. Ac yr oedd preswylwyr y bythynod yn cymeryd gwersi oddiwrth y gwenyn — tŷ, a, gardd, a fferm fechan, trefnus; a diwydrwydd a rhag ddarbodaeth oeddynt eu nodweddiadau arbenig. Yr oedd y ddressar dderw fawr, a'r dysglau piwtar, yn y naill fwthyn fel y llall, yn loyw fel y ffrwd dryloyw; a'r ardd, a'r deisi bychain o ŷd a mawn, yn drefnus odiaeth, ac ystyried hefyd nad oedd eu taclusrwydd i foddio neb bron ond llygaid pobl Nant Gwrtheyrn yn unig. Ar fin y ffordd fawr a'r llwybr cyhoeddus y bydd y ffermwyr yn caru dangos ei hwsmonaeth; lle byddo ei daclusrwydd yn debyg o gael ei ganmol gan eraill.

Gant a haner o flynyddau yn ol, preswylid y bythynod hyn gan ddau deulu o'r enw Meredydd; un ohonynt gan Rhys Meredydd a'i ddwy chwaer — plant amddifaid; a'r llall gan Ifan Meredydd, hen ŵr gweddw, a'i unig blentyn Meinir Meredydd. yr oedd tadau y plant hyn yn ddau frawd, a'r ddau frawd hyn, trwy eu hynafiaid, oeddent feddianwyr y Nant oll, gyda'i chlytiau o ŷd-dir a'i gweirgloddiau bychain. Llanc gwridcoch, unionsyth, a hardd, oedd Rhys, eithr gwylaidd fel plentyn; a morwyn landeg, luniaidd, o duedd feddylgar a phrudd, oedd Meinir. Yr oedd unigedd tawel y golygfeydd o'i deutu wedi gwneud delw ohonynt eu hunain ar ei meddwl hithau — eangder y môr ar y naill ochr, a mawredd y mynyddau ar y llall; heb gyfeillesau ond ei dwy gyfnither, y rhai oeddynt afiach; y cyfan gyda'u gilydd yn dylanwadu ar feddwl llariaidd y wyryf swyngar, nes y teimlai ei hunan fel pe buasai mewn crefydd-dŷ, yn nghanol mynyddau, gyda'i fiwsig sobr, a chwiorydd wyneb-lwydion.