Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- Ni bydd cyttun hûn a haint.
- Gwae'r wraig a gaffo ddrygwr
- Gwae'r gŵr a gaffo ddrygwraig.
- Edifeirwch y gŵr a laddes ei filgi.
- Hwyr hen a hawdd ei orddiwes.
- Ni bydd doeth yn hir mewn llid.
- Yn mhob dirgelwch Duw a fydd.
- A fyno Duw a fydd.
- Gwaethaf anaf yw drygfoes.
- Pe traethai'r tafod a wypai, ni byddai'n gymydogol neb rhai.
- Diwedd lleidr cael gwarth.
- Duw a phob daioni.
- Och! rhag gelyniaeth brodyr.
- Celfydd, celed ei arfaeth.
- Nis gwyr dyn beth yw ei ddamwain.
- Pwy wyr ddamwain mab wrth feithrin?
- O bob crefft a phob campau, gweddio Duw sydd oreu.
- Gwell goddef cam na'i wneuthur.
- Nid da gwylder mewn eisiau.
- Anaml elw heb antur.
- Nid oes gŵyl rhag rhoi elusen.
- Gwell yw crothell bach mewn llaw, na gleisiad a fo'n nofiaw.
- Hardd ar ferch bod yn ddystaw.
- Hardd ar fab ymgellweirio.
- Clydwr dafad yw ei chnu.
- Gwynfyd herwr yw hirnos.
- Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle.
- A Duw nid da ymdaraw.
- A ddyco ŵy a ddug a fo mwy.
- Da rhoes Duw'n ddiamheu, gorn byr i'r fuwch a'i hwyliai.
- Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â gwiail.
- Hir pob aros.
- Na phryn gath mewn cŵd.
- Ni thawdd dyled wrth ei ohirio.