Tudalen:Cymru fu.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawnid y fath orchestwaith, y dilynid hyny gan ryw aflonyddwch neu gilydd. Er hyny, y mae y peth rhyfeddaf o'r cwbl yn aros yn ddirgelwch, sef pa fodd y daeth i galon dyn yn yr Oesoedd Tywyll hyny y codid y fath "Uchelgaer uwch y weilgi," tros grigylloedd enbydus Porthaethwy.

Y Bala aeth, a'r Bala eiff;
A Rhuthyn yn dref harbwr.

Yn nglyn â'r llinellau hyn clywsom y traddodiad hefyd fod y Bala unwaith yn orchuddiedig gan ddwfr; ac hefyd i'r dref gael ei diluwio amryw weithiau pan fyddai gwynt nerthol yn chwythu ar y llyn. Ond y mae pob lle i gredu na chyflawnir y brophwydoliaeth hon byth, oni sudda y dref gryn lawer, neu y dysg dwr fel "balch angenus" fyw uwchlaw ei lefel. Y mae tuag ugain milldir rhwng tref Rhuthyn a bod yn" dref harbwr," ac yn ol pob golwg nid ydyw yn debyg o gael ymweliad gan Dafydd Jones yn oes neb sydd yn fyw yn bresenol. Hwyrach, er hyny, mai "Mi ddown, pan ddown," a fydd hi gyda Dafydd rywbryd eto.

Chwedlau oddiar Lafar Gwlad am dano.

"Gosodir ef allan," ebai Cynddelw, "fel brawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac adroddir y chwedl hon am danynt: Yr oedd Robin wedi penderfynu lladd pwy bynag a ddygai y newydd iddo fod ei fam wedi marw. O'r diwedd, bu farw yr hen wreigan; ond ni anturiai neb â'r newydd i Robin. 'Myfì a fynegaf iddo,' ebai Dafydd ei frawd. Yna Dafydd a gymerth ei ddameg ac a ddy wedodd wrth Robin, 'Syrthiodd y gangen â'n dygodd ni'n dau. 'Fu farw fy mam?' ebai Robin mewn cyff'ro. 'Tydi a ddywedodd y newydd gyntaf,' ebai Dafydd. Felly nid oedd gan Robin hawl i ladd neb yn ol ei fygythiad."

Ystyrid ef hefyd yn ddewin heb ei fath. Yr oedd ei enwogrwydd yn y gangen hon o'r gelfyddyd ddu wedi cyrhaedd hyd i'r Deheudir — i blith mawrion y tir yn gystal a'r werin bobl. Yr oedd gwraig rhyw foneddwr yn Nyffryn Teilo wedi colli tri gèm gwerthfawr iawn, na fynasai mor byd yn eu lle. Chwiliwyd am danynt yn mhob ystafell yn y palas, a holwyd yr holl forwynion a'r gweision yn eu cylch, heb y rhithyn lleiaf o obaith am eu. hadferiad. Ymgynghorwyd â dewiniaid a dewinesau