Tudalen:Cymru fu.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffeithiau amgylchynol, mai rhai o bobl y tŷ oedd yn euog o'r lladrad, a chael allan y pechadur yn eu mysg oedd testyn ei graffder o hyny allan. Un diwrnod aeth i roi tro trwy yr ardal, ac un o'r gweision gydag ef, er mwyn ei gyfarwyddo. Daethant ar ddamwain at fynwent lle yr oedd y torwr beddau wrth ei waith, a hwnw fel grave-digger Shakespeare, yn ddibris ddigon yn taflu esgyrn penglog i fynu o'i weithfa. Wrth edrych ar y gwrthddrych dynolwawdus hwn, tarawyd y dewin gan ddrychfeddwl o gynllun campus. Cododd y danedd a dododd hwynt yn un o'i logellau. Ni wyddai ei gydymaith ar y ddaear beth i'w feddwl o hyn; edrychodd gydag arswyd ar Robin o hyny allan. Wedi cyrhaedd adref aeth y gwas i'r gegin, a Robin i'w ystafell. Adroddodd y gwas hwn wrth ei gydwasanaethyddion pa fodd y bu'r tua'r fynwent; ac edrychent oll ar eu gilydd yn fudanod dychrynedig. Toc, daeth Robin hefyd i'r gegin, ac archodd mewn modd awdurdodol ar i bob enaid yn y lle ymgynull ger ei fron ef. A phawb a ddaethaut. Yna, gan edrych yn sobrddwys a chraff i'w gwynebau, ebai'r dewin, "Fechgyn a genethod, bydd yn noson erchyll yma heno; yr wyf am alw tair lleng at fy ngwasanaeth, y rhai a ddygant gorwynt yn ei hadenydd, ac a nithiant bawb a phobpeth yn y lle mor fân fel yr â gyda'r gwynt, er mwyn d'od o hyd i'r gemau. Ond ni fynwn er dim i'r dieuog gael ei gospi gyda'r euog, am hyny yr wyf yn rhoddi i bob un ohonoch y papuryn hwn (yn estyn i bob un bapuryn yn cynwys un o'r danedd crybwylledig), a'r sawl sydd ddieuog ni chospir mohono; eithr y sawl sydd euog, bydd yn ddigon mân erbyn y bore i fyned trwy ogr. "Yr oeddynt yn delwi ger bron y dewin rhag ofn i'r corwynt hwnw wneud rhyw gamsyniad. "Ond o ran hyny," ebai ef yn mhellach, "ni raid wrth gorwynt na pheth, ond i mi gael y gemau yn fy ystafell o hyn i haner nos; ac ni raid i un ohonoch ofni y bydd i mi achwyn; na, cadwaf y dirgelwch yn nghilfach ddyfnaf fy nghalon. "Yna efe a ddychwelodd i'r ystafell, gan bryderus ddisgwyl pa effaith a gai'r bygythiad llymdost hwnw arnynt. Pa fodd bynag, cyn pen haner awr dyma guro wrth y drws, a daeth un o'r morwynion i mewn tan grynu a dodi y gemau mewn llian o bali yn llaw y dewin." Cofiwch yr amod," ebai hi wrth fyned ymaith. "Ni raid i ti ofni yn nghylch hyny," ebai yntau. Bu agos iddo hollti ar ei draws gan chwerthin a llawenydd oherwydd ei lwyddiant. Yr oedd y fath lwyddiant tu hwnt i'w obeithion disgleiriaf.